bell notificationshomepageloginedit profileclubsdmBox

Read Ebook: Gwaith Twm o'r Nant Cyfrol 2 by Edwards Thomas Edwards Owen Morgan Sir Editor

More about this book

Font size:

Background color:

Text color:

Add to tbrJar First Page Next Page

Ebook has 149 lines and 16972 words, and 3 pages

Editor: Owen Morgan Edwards

Gwaith Twm o'r Nant

Y PEDAIR COLOFN. CYWYDD HENAINT.

Llanuwchllyn: AB OWEN 1910.

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD: AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR, CONWY.

Rhagymadrodd.

GANWYD Thomas Edwards ym Mhen Porchell, Llan Nefydd, yn 1739. Pan nad oedd ef ond hogyn, symudodd ei rieni i'r Nant Ganol, Henllan. Nid oedd dim yn neillduol, hyd y gwyddis, yn ei rieni; gweithient yn galed, ac nid o'u bodd y rhoddai eu bachgen athrylithgar ei amser gorffwys i lyfrau. Ennill ei damaid oedd neges ei fywyd. Canlyn ceffylau, gyrru gwagen, a llwytho coed, oedd ei brif orchestion. O amgylch Dinbych y treuliodd ran fwyaf ei oes, er iddo grwydro i ddyffrynoedd Hafren a Thowi yn ei dro; yn Nyffryn Clwyd hefyd y treuliodd ei henaint. Yr oedd yn wr cadarn o gorff, parod ei ddyfais, ond ni lwyddodd yn y byd. Bu farw Ebrill 3, 1810, gan mlynedd i eleni; a chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, ger Dinbych.

Yn anhymig y ganwyd ef, a dyna'r pam na chafodd ei athrylith, er cryfed ei hadenydd ac er cliried ei llygaid, ei lle priodol ym meddwl Cymru. Pe ganesid ef yn gynt, cawsai feddwl Cymru iddo ei hun; a hwyrach y buasai cenedl yn deffro i weled ei hun yn nrych y ddrama. Pe ganesid ef yn ddiweddarach, buasai'r Diwygiad wedi puro ei genedl ac wedi sancteiddio ei enaid yntau, a gallasai ddangos ei hun i genedl newydd yn yr un drych. Ond daeth Twm o'r Nant yn oes y Diwygiad, pan oedd cedyrn pulpud Cymru yn galw ar y genedl i edrych o honi, nid iddi, ei hun. Er hynny, y mae interliwdiau Twm o'r Nant yn naturiolach a pherffeithiach darlun o fywyd y ddeunawfed ganrif na dim arall a feddwn.

Yr oedd cydymdeimlad Twm ?'r werin, rhed holl nerth ei serch mawr at y tenant gorthrymedig a'r gweithiwr. Yr oedd ysbryd y Chwyldroad Ffrengig ynddo yntau, ond gyda gwelediad clir, a ffydd.

Yr oedd yn ddiwygiwr ei hun, mae ei holl waith, gydag un eithriad, mor rymus dros foesoldeb a phregethau'r Diwygiad. Ni welodd holl ddrwg chwant y cnawd.

Fel dramayddwr y mae'n fwy nag yw'r Wyddfa yn Eryri, saif yn llenyddiaeth Cymru heb neb yn agos ato. Y mae pob cymeriad ddarluniodd yn fyw, nid yw'n gwneyd i glai difywyd siarad, ac nid yw byth yn ail gerdded yr un llwybr. Ond yr esboniad ar ei ddylanwad yw ei allu rhyfedd i siarad fel ysbryd goreu ei oes,--yn synhwyrol, ac ar yr un pryd yn llawn dychymyg; yn hynaws, ac eto heb arbed y drwg. Ni fu sant na phechadur yn hanes Cymru eto heb deimlo fod Twm o'r Nant wedi dweyd y gwir.

OWEN M. EDWARDS.

Cynhwysiad.

DAU FYWYD.

Y puraidd Robert Parri, Maddeuwch imi 'mod Yn awr yn cynnyg gyrru canu, I geisio clymu clod I chwi, sy'n byw mewn llawnder, A'ch pleser, yn eich Plas, Gyda'ch meibion yn heddychlon, Heb unrhyw galon gas; Teulu ydych hoew wladaidd, Yn byw'n ddifalch ac yn ddofaidd, Nid hel "Meistr" ac ymestyn, A champ-godi a chwympo gwedy'n; Wrth fyw'n gytun at ddaioni Fe ddaeth mawrhydi i'ch rhan: Eigion rhediad ac anrhydedd Yw'ch mawredd yn eich man; Mae eich maesydd, wych rymusiant, A'ch 'nifeiliaid, i chwi'n foliant; Ychen, defaid, a cheffylau, A da blithog, laethog lwythau; Pob angenrheidiau 'n rhadus, A threfnus yma a thraw, A Duw'r heddwch, mae'n arwyddo, 'N eu llwyddo dan eich llaw.

Maith yma John a Thomas, Cyweithas frodyr cu; A da yw'ch golwg chwi, 'r hen geiliog, Awch talog wrth eich ty: Mae'n hwythau 'n ddynion ethol, Naturiol ym mhob taith, A di ynfydrwydd ill dau'n fedrus, A gweddus yn eu gwaith; Felly rhyngoch yn llwyr wingo, Mawrhydi'ch llwyddiant a'ch holl eiddo, Nes eich myned, hwylied helaeth, Yma'n degwch i'ch cym'dogaeth; A chywaeth tai a chaeau, Sydd i'ch meddiannau'n ddwys; Fe d?l eich llawnder, a'ch call undeb, Drwy burdeb aur da bwys: Rhyfedd fendith, rhyfedd fwynder, Sy'n ddymunol dan eich maner; Rhyfedd rhagor chwi fawrhyged, A m'fi ac eraill yn fegeried; Chwi ar led mor lydan, A'ch arian gl?n drwy glod-- Minnau'n ffwlyn, dwlyn, diles, Anghynnes, gwag y 'nghod.

Chwi'n magu anifeiliaid, Moch, a defaid iawn Gweirgloddiau, a chauau, tai, a'ch heol, Sy'n llwyddol ac yn llawn: Minnau dim fagais At fantais eto i fyw, Ond lladd ceffylau, dilyn ffoledd, Anrhydedd oeredd yw: A'r hyn a fagais o'm rhywogeth, Mewn twrr o gwynion, oedd tair geneth; Mae rhei'ny a'u mam mewn dinam dyniad, Er fy 'mgeledd lawer galwad Mae'r merched bawb am orchwyl, Yn ol eu hwyl eu hun, Yn troi eu helynt at ryw alwad, A'u teimlad yn gytun; Eu mam a minnau sydd yn myned, Fel rhai eraill, ar i wared; Tua'r bedd mae gwedd ogwyddiad, Rhieni'n mynd, a'r plant yn dwad: Mae treigliad asiad oesau Fel tonnau miniau m?r, Neu ffrwd gyffredin olwyn melin, Yn dirwyn yn ddi dor.

A chan nad oes mewn bywyd Un rhydid yn parhau, Gwnewch o'ch mammon gyfion gyfaill, Ceiff eraill eich coflau; Dadgenir hyn ond odid, O'ch plegyd chwi a'ch plant, Pan f'o chwi byddar yn eich beddau, Tan odlau Twm o'r Nant; A'r hyn o gysur wy'n ei geisio, Ni ddymunwn feddu mo'no, Oni cheir e'n gwbl fodlon, Heb un gilwg yn y galon; A'ch rhoddion os cyrhaeddaf, Cyhoeddaf chwi o hyd;

Ac os y bennod ni dderbynia', Nis gwn a fyddai'n fud: Cerdod wlan yw 'ngh?n a 'nghwynion, Am hynny gwyliwch dorri'ch calon; Mae rhagor didwyll rhwng cardode, A hyn chwi wyddoch, rhowch a wedde': Ac oni rhowch o'r achos, Ni wiw mo'r dangos dant, Fe fu fwy dychryn ar y dechrau, Na hynny, 'n ochrau'r Nant.

Ond Nant a'i cheunant chwannog, Sy'n lle afrywiog fri; Pe rhoech o'ch gog'yd lwyth eich gwagen, Ni lanwe'i hagen hi; Pe b'ai ond sych ben sached, O wyched fydde'i wawr, Ceid y teulu i gyd at olud, A'u llwyrfryd i'r droell fawr; Mi gawn frethyn cryf i'r eithaf, Imi'n goat erbyn gaeaf; Gallwn addo i'r wraig mor haw'gar, Eto fantell at y fentar-- Dull anwar ydyw llunio, Ag addo o'ch eddo chwi; Mawrhygu rhoddion cyn y caffon' Llawenydd cynffon ci; Pe'ch holl rodd o fodd a fydde' Ond briwsionyn at bar 'sane', Mwy fyddai hynny i'w feddu'n foddus Nag a haeddwn ni'n gyhoeddus: Ffarwel yn bwyllus bellach, Fe dderfydd afiach w?n, Gwisgiad gore', gras cyn ange', I chwi a minne', Amen.

BONEDD A CHYFFREDIN.

Robert Davies, rhyw bert ofyn A yrraist i mi, yn wers dwymyn, Oblegid bonedd, blagiad bennau, A'r cyffredin gyffroiadau; Nid wy' teilwng nodi at olwg Am y cyfryw Faith iawn ymliw, fyth yn amlwg; Dyn truenus, boenus beunydd, Ydwy'n wyrdraws, Rhy ofernaws i'm rhoi'n farnydd.

Wele'r farn yn gadarn gydwedd A geir inni o'r gwirionedd,-- Mai ffrwyth pechod, arfod hirfaith O dir uffern, ydyw'r effaith; Hwn yw'r achos yn oruchel Cynhyrfiedig; Pawb am ryfyg, pob ymraf'el; Yr un anian sy ynnom ninnau, Ag oedd yn gosod Cynnyg isod Cain ac Esay.

'Roedd esgus Adda o'i droseddau, "Y Wraig," medd ef; "Y Sarff," medd hithau; Felly'r wlad, a'u nad annedwydd, Bawb a'u hesgus dros eu hysgwydd, Gwael eu gwedd, a bonedd, beunydd Sy'n ymliw'n amlwg Orwag olwg ar eu gilydd; Fal pren ar demestl, prawf di amau, Mawr fydd ffwndwr Acw y'nghynnwr' y canghennau.

A'r ceinciau'n raddau sy'n cyrhaeddyd Sefyllfaoedd yr holl fywyd; Tyfiad pawb, o dlawd i frenin, Sy'n llygreddawl o'r un gwreiddyn; Nid oes heddyw'n gwneyd eu swyddau, 'N un gelfyddyd, Neb a'i fywyd na bo feiau, Naws a gewch mewn is ag uchod I ryw ddichell, Ymhob bachell am eu pechod.

Mae rhai penaethiaid, euraidd araith, A'u hawdurdod yn ddi effaith; Esiamplau drwg, mewn golwg helaeth, Sy'n wall anfeidrol mewn llywodraeth Rhai ynadon rhy niweidiol, A chyfreithwyr Sydd anrheithwyr swydd anrhaethol, A rhai personiaid, pwy resyna? Ymhob ffiaidd Naws aflunaidd, nhw' sy' flaena.

A thra fo'r blaenaf heb oleuni, Yn twyso'r dall i ffos trueni, Swn digofaint sy'n dygyfor Yspryd Saul, elynol flaenor, Lladd y plant er mwyn dieithriaid, I geisio cadw Yn 'r ymyl acw'r Amaleciaid; Cryfhau breichiau annuwioldeb Mewn drygioni, Daw'n warth i ni, a Duw'n wrthwyneb.

Mae'r saith angel ar eu siwrnau, Yn dechreu tywallt eu phiolau; Llawer gwae sy'n llwyra gwewyr, I'w rhoi yma i'r rhai amhur; Gwae rhai gydiant faes at faesydd, Nes bod gwendid, Oes wall ofid, eisiau llefydd; Mae n ddi ameu'n anhawdd yma I dylodion, Ac elw byrion, gael eu bara.

Cofia, 'speiliwr cenhedlaethau, Y bobloedd a'th yspeilia dithau; Am waed dynion mewn galanas, Ac am dy drais mewn tir a dinas, Gwae elwo elw drwg i'w berchen, Yn falch 'i af'el, I nythu'n uchel--noeth yn ochen; Ac os yw Lloegr dan 'r un llygriad, Caiff gan yr Arglwydd, 'R un cul dywydd a'r Caldea'd.

Beth yw plasau, trasau trysor, Ond gorseddfeydd annuwiol gyngor? Mae gwin, a bwyd, a gwyniau bydol, Yna i'w moedro, 'n anghymedrol; Meibion Scefa 'mhob naws gaf'el, Heb yr Arglwydd, Sy dan chwithrwydd dyn a chythrel; Chwys y tlawd yw'r cnawd a'r cnydau, Rhwysg a balchder, Y swn a'r pleser, sy'n eu plasau.

Fe wasg y mawrion dewrion dyrus Y llafurwyr, ?'u llaw farus; A'r llafurwyr, a'u holl fwriad, Gwisgo'r gwyn, a gwasgu'r gweinia'd; Gwasgu sydd, a gwisgo swyddau, Nes yr aethon' I faela dynion, fel eidionau; Gwerthu'r cyfion er ariannau, A'r tlawd truan Er pris gwadan par esgidiau.

Dyma'r byd ac ergyd gwyrgas, Y sydd yn awr a'i swyddau'n eirias; Memi melin flin aflonydd, Egni galed yn cnoi 'gilydd; Pawb ar eraill a weryran', A neb yn cwyno Ei wyrni heno arno'i hunan; A phob enwau, tlawd a bonedd, Oll yn euog, Tan'r un warog, trwy anwiredd. Gwedi chwalu gwawd uchelwyr, Pa faint ffurmach ydyw'r ffarmwyr, Sydd mor feilchion, gw'chion gyhoedd, Rymus droediad, a'u meistradoedd? Pell yw peirch eu meirch a'u merched, Hwy rygyngant Fwy nac allant yn ddigolled: Lle bo addysg byd neu eiddo, Dyna ragrith, Wyniau melldith, yn ymwylltio. Ac os ewch i ddangos ochain, Babel droiau'r bobl druain; Llygredd llun, a gwyn drygioni, Swn yr hunan sy' yn y rhei'ny; Meddwi a hwrio, mawr ddihirwch, Bawb lle gallant A ddilynant aflawenwch; Anesmwythdra, lleithdra llwythdrwm, Byw'n ddi'g'wilydd Dan eu gwarthrudd, dyna'u gorthrwm. A phwy ond diafol, awdwr pechod, Sydd yma y'nghadfa pob anghydfod? Pan ddarfu'r tyn offeryn Pharo Bwytho ar ddynion, beth oedd yno? Nid ffast wenwyn, na phastynau, Mewn cynddaredd, Oedd eu buchedd dan eu beichiau; Ond o'u cyfyngder eger eigion, At Dduw'n ddibaid 'Roedd eu hochenaid a'u hachwynion. A than bwysau'r ieuau 'rwan, Geifr a moch sy'n croch ysgrechian; Ymroi a diodde'n ddi w'radwyddiad Dan iau'n ddyfal a wna ddafad; I ddefaid Crist mae'r iau'n esmwythdra, Cariad Isr'el, Goruwch fug'el, a'u gorchfyga; A'r rhai orchfygant awch arfogaeth Chwantau'r gelyn, Mae'r Iesu'n dilyn iau'r dystiolaeth.

Beth yw rhyfel boeth, hir ofid, Ond melus chwantau beiau bywyd? Olwyn fawr digofaint gyfion, Sy'n troi'n boenus trwy ddibenion: Ac os y tlawd raid heddyw ddiodde', Caiff gwyr mawrion, Taer annoethion, eu tro nhwythe', Fel mae amser i bob amcan Trefn Ragluniaeth, Drwy wahaniaeth Duw ei hunan.

Angenrhaid yw o ran cyflyrau, Byd rhai astrus, yw bod rhwystrau; Gwenith gl?n 'does ofon sefyll, Pan godo'r gwantan gyda'r gwintyll; Tan y groes, mewn oes yn isel, Mae lle'r Cristion. Fe ddaw'n gyfion o bob gaf'el; A Duw anwyl, er daioni, Drotho'n buchedd At wirionedd, o'n trueni.

HAFGAN.

ANWYL GYFAILL.

Cerdd i annerch cyfaill caredigol, pan oedd dan groesau a blinderau.

ANWYL gyfaill, rwy'n dy gofio, A gweddi mynych, gan ddymuno I Dduw roi llwyddiant er pob lludded Yn graff i'th onest gorff a'th ene'd; A dal dy draed ar Graig yr oesoedd, Er pob helynt, Eiddig oeddynt, a ddigwyddodd; Ac er pob peth a ddigwydd eto, Duw fo i'th dywys, Yn gyhoeddus, rhag tramgwyddo.

Cefaist yma lawer damwain, Megys rhybudd cerydd cywrain; Mae'r Saer-celfydd ymhob cilfach, Am dy docio i'th wneyd yn decach, Torri ceinciau d' anystyriaeth, Harddu'r Eglwys, Caer hoff wiw-lwys, mewn corpholaeth, Bwrw'r gwarthus bnynu a gwerthu Hwnt o'r deml, I fan isel a fyn Iesu.

Gwel fod ffraeth ragoriaeth gaerog Rhwng gwir blentyn a gwas cyflog; Rhaid i'r plentyn etifeddol, Gyrraedd didwyll gerydd tadol; Nid ydyw rhai na ch?nt yn weddaidd Fflangell barod, Bwys awdurdod, ond bastardaidd; Dal dy s?l a gwel y gwaelod, Plentyn cyfan Wyd ti dy hunan i'r Tad hynod.

Cariad Crist a ddarfu'n dirion Deg arwyddo'n dy geryddon; Efe, cofia, sydd drwy'r cyfan, A'i ddawn ollawl i'th ddwyn allan; Ar Job gynt ca'dd Satan weithio; Darfu'n rhydost Gnoi, di a'i gwyddost, gnawd ac eiddo; Ond cadwe 'i enaid gwedi hynny-- Rhyfedd, nerthol, Anhebgorol, mae Duw'n caru.

A gadwo Duw a fydd cadwedig Trwy ddwfr a th?n, a gwawd a dirmyg; Nid oes dim all niweid egraidd I rai garant Dduw'n gywiraidd; Mae pob rhyw bethau'n rhannau'r rhei'ny Yn gweithio beunydd Oreu deunydd er daioni; A gwyn ei fyd y diwyd ffyddlon A ail aned, A Duw'n gywled yn ei galon.

Yr Eglwys ydyw'r hardd dreftadaeth, A chalon dyn yw'r pren gwybodaeth; Mae'n ffrwyth gwa'rddedig ynddi'n canlyn, Gwyliwn drwyddo goelio'r gelyn; Pwyll a sobrwydd sydd angenrhaid, Dal ar orchwyl Oen Duw anwyl yn dy enaid: "Fy mab," medd Duw, "moes im' dy galon"; Dyna'r d'ioni, Gyda nyni, ymgadw yn union.

Y galon yw'r ystafell addas, T?r puredig, ty'r briodas; Os gwelir un hen w?n yn honno, Ac heb y wisg briodas ganddo, Rhwymwch, deliwch, draed a dwylo, I'r t'w'llwch enbyd, Lwyra gofid, 'lawr ag efo; Caiff pawb ond plant y ddinas burlan, Eu troi, dyallwch, I'r tywyllwch, o'r tu allan.

Cans oddi allan mewn swydd hyllig Mae'r cwn a'r swyn-gyf'reddwyr eiddig, Puteinwyr a llofruddwyr gwaedlyd, A phob celwyddwyr, yfwyr hefyd, Addolwyr eulyn, ddwl oer alwad, Ni 'dwaenant olau, Dawn a geiriau Duw, na'i gariad; A'r holl broffeswyr hunan-gnawdol, Nid yw eu rhyfyg, A'u dull unig, ond allanol.

Gwyliwn fod ar n?d annedwydd, Rhaid dal yn agos at yr Anglwydd, A ffoi i Soar am anrhydedd: Ni thal sefyll ar wastadedd, Fel gwraig Lot, a ddarfu gychwyn, Ei gwlad a'i chartre, Fodd anaele, fu iddi'n elyn. Chwant y cnawd, a llygredd cyhoedd, Allant dyfu I'th anafu o borth y nefoedd.

Llawer ffordd a llawer cwestiwn Sydd yn t'wyso rhyw demtasiwn; Gormod cyfle, a mynych arfer, Eill ein hudo ni o'n llawn hyder; Er bod doethineb mawr yn Sal'mon, Merched lledrydd, Draws eu gilydd, droes ei galon; Er gwneyd teml Dduw yn 'i ddechreu, F' aeth i weithio, Dan wenh'eithio, i'w duwiau nhwytheu.

O! mor llithrig ydyw llwybyr Tuedd dyn i fynd wrth natur; Rhyfedd gariad a thrugaredd, Fod rhai'n sefyll hyd y diwedd; Os ai fel Pedr dros y llwybrau, Gweddia'n fynych, I Dduw edrych, di ddoi adrau: Golwg Iesu a'n galwo'n gyson, A'i air fo'n llosgiad, Unig hwyliad yn ein calon.

OLWYNION DWFR MELIN RHUTHYN.

CODOG fawr enwog forwynion,--dwy-rod, Yn dirwyn yr afon; Cwyd gwegil codau gweigion, Codau o bwys ceidw y bon.

Y GALON DDRWG.

Add to tbrJar First Page Next Page

 

Back to top