Read Ebook: Gwaith Twm o'r Nant Cyfrol 2 by Edwards Thomas Edwards Owen Morgan Sir Editor
Font size:
Background color:
Text color:
Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page
Ebook has 149 lines and 16972 words, and 3 pages
Y GALON DDRWG.
Swelwn echrysa golwg, Gwael iawn ddrych y galon ddrwg: Calon afradlon o fryd, Annuwiol heb ei newid: Calon yw mam pob cilwg, An-noeth drefn, a nyth y drwg; Drwg ddi-obaith, draig ddiball, Pwy edwyn ei gw?n a'i gwall?
Effaith y cwymp, a'i ffrwyth cas, A luniodd pob galanas; Grym pechod yn ymgodi, A'i chwantau fel llynnau lli; Glennydd afonydd y fall, Dengys bob nwydau anghall; D?g-ofid yn dygyfor, T?n a m?g, fel tonnau m?r: Uffern yw hon, o'i ffwrn hi Mae bariaeth yma'n berwi: Ysbyty, llety pob llid, Gwe gyfan gwae a gofid; Trigfa pob natur wagfost, Bwystfilaidd 'nifeilaidd fost: Treigle a chartref-le trais, Rhyfeloedd, a phob rhyw falais; Rhial pob an-wadal w?n, Ty ac aelwyd y gelyn. Meirch, a chwn, a moch annwn, Sy'n tewhau yn y ty hwn, Seirff hedegog mewn ogo, A heigiau dreigiau blin dro. Pob lleisiau, arw foesau'r fall, Sy'n dwad i swn deall; Swn t'ranau, sain trueni, Swn gofalon greulon gri: Melin wynt, yn malu'n w?g, Rhod o agwedd rhedeg-wag; A'i chocys afaelus f?n, Yn troi'u gilydd trwy'n galon; Drylliad, ag ebilliad bach, Y maen isaf, mae'n hawsach, Na dryllio, gwir bwyllo i'r bon, Ceulaidd, drygioni calon, C'letach a thrawsach ei thrin, Mewn malais, na maen melin.
Llais hen Saul, a llys hwn sydd, Fan chwerw, o fewn ei chaerydd. Ni all telyn a dyn doeth, Clywn, ennill calon annoeth.
Och! ni byth, achwyn y bo'n, Wrth goelio, fod fath galon: Gweddiwn, llefwn rhag llid, Yn Nuw, am gael ei newid. Nid oes neb a'i hadnebydd, Ond gain y Tad, a'i rad rydd; A'n gair os daw, gwiw-ras d?n, A dry'r golwg drwy'r galon: A drwg calon draw cilio, Amen fyth, mai hynny fo.
YN gymaint ag i mi ryfygu argraffu y cyfryw waith distadl ag yw hwn, oblegyd ei fod yn myned tan yr enw Chwaryddiaeth fe geir amrywiol yn ei wrthwynebu, canys ni allant oddef i ddim da ddyfod o Nazareth. Fe fydd y farn arnaf fi, yn enwedig ymhlith dynion ffroen uchel Phariseaidd, a hidlant wybedyn, ac a lyncant gamel.
Ond yn fwy neillduol, mewn ffordd o amddiffyniad i'm gorchwyl, mi a ddymunwn ar bob un esgusodi barnu cyn profi y dystiolaeth. Gwaith pawb a brofir; felly mi a ddymunaf ar y rhai sydd barotach i farnu nag ystyried, i ddar llen neu wrando yr hyn sy'n gynwysedig; ac yna hwy a g?nt adnabod fod pob gair yn wir at ei achos.
Yn gyntaf, fe ddaw un i adnodd y testyn, ac un dan enw Brenin; ac at hwnnw, un i ddatguddio amrywiol o'r twyll sydd yn y deyrnas; yn ol hynny, yr Hwsmon ; ac at hwn fe ddaw hen fenyw ddiog. A daw un dan enw Esgob; ac at hwnnw fe ddaw un i gellwair am le i fyned yn offeiriad; yn hyn y datguddir y trueni a'r llygnedd sydd mewn gosodiadau eglwysig. Ac yn ganlynol daw yr Ustus, ac ato ef yr Hwsmon, ym mha le y dangosir dull y cam-gyfreithiau a'r creulondeb sydd yn y wladwriaeth. A daw yr Hwsmon i'w ddyrchafu ei hun, mai efe sy'n cynnal pawb; i ba un yr atebir, na all un alwedigaeth ei chynnal ei hun,--fod sefyllfa ddynol yn gyffelyb i un dyn, y pen a'r holl aelodau yn gyfatebol i un corff. Daw yr Hwsmon, wedi ei ofidio gan glefyd, yn ymofyn Doctor, ac yn addunedu, os cai hoedl hwy, y byddai yn ddyn duwiol; ac y mae yn ymddarostwng i ychydig o enw diwygiad; ond pan gyntaf y gwellhaodd o'i glefyd, y mae yn myned waeth nag o'r blaen, ac yn y diwedd yn marw yn druenus. Yn y modd hyn y mae'r llyfr hwn yn treiglo.
Nid oes gennyf ond ei adael i'ch barn chwi oil, gan obeithio nad oes neb mor foethus na allant "brofi pob peth, a dal yr hyn sydd dda."
Yr eiddoch oll, &c.,
THOMAS EDWARDS.
PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.
"Wel, gwelwch i gyd, Trwy'r byd yn wybodol y rheol sy'm rhan, I mi mae anrhydedd, a mawredd pob man; I'r Brenin mae'r braint, Wir gywraint ragorieth, yn benneth mawr barch, A phob ryw reoleth trwy'i daleth hyd arch; I mi mae'r awdurdod, a mawr air Emerod, I mi mae'n bri hynod yn barod mewn byd, I mi mae'r gair uchaf, beth bynnag a archaf, Mae'n dynion sydd danaf, mi brofaf i'm bryd, Hwy wnant fel y mynnwyf pan alwyf yn nghyd; Os archaf eu hanfon i ryfel echryslon, Yn erbyn gelynion, yn union hwy an', Hwy laddant, hwy leddir, gorchfygant, gorchfygir, Trwy ddyfroedd y mentrir, nid ofnir mawr d?n, Dangosant eu cryfdwr iawn ledwr yn l?n.
"Fy awdurdod sydd gry', Mewn gallu teg 'wyllys yn ddawnus tan Dduw, I mi mae gor'chafieth, rheoleth pob rhyw, I mi mae mawrh?d, Pob gwlad enwog lydan sy'n rhwyddlan i'm rhan, Mae'r deyrnged i'm gafael, er mael o bob man; Mae danaf, nod union, arglwyddi a marchogion, Pob math ar w?r mawrion, sydd ffraethlon swydd ffri, Pob offisers diwad, pawb gwiwlan, pob galwad, Pob cyfoeth, pob cofiad, mewn rhad mwy na rhi', Sy'n dirwyn o diroedd a mofoedd i mi; Gan hynny gwybyddwch, heb gilwg, o gwelwch, 'Rwy'n cario'r hawddgarwch ar degwch pob dyn, I mi mae'n holl arwydd, a'r goron deg wiwrwydd, Tan fraint ardderchawgrwydd, nef hylwydd ei hun, Dylwn gael i'm cyfarch bur barch gan bob un."
Sant Paul gynt a roddodd urdda I Timotheus, yr esgob cynta, I oruwchlywodraethu'n siwr, Yr Ephesied, yn wr hoffusa.
A Thitus hefyd, wynfyd iawnfodd, Efe yn ddewisol a'i hurddasodd, Ar y Cretiod yn esgob cryf, Ei ddonie dwysgu ddysgodd.
Yr wyf finne'n deip o'r alwad honno, Dan enw'r esgob mewn gwir osgo, Yn dad eglwysydd odidog liw, Hoff urddus, i'w hyfforddio.
Mi adawaf arian i'r tylodion, 'Rwy'n meddwl fod hynny'n weithred raslon; Ac mi dderbynia'r pregethwyr gore i'r t?, 'Rwy'n bwrw fod hynny'n burion.
Ac mi wna'r peth a fynnir byth yn fwynedd, Ym mhob rhyw gariad, os ca'i drugaredd; Gweddied pawb gyda fi hyn o dro Am iechyd i ymendio 'muchedd.
Cofia Gain a'i aberth cyndyn A gwraig Lot a ddarfu gychwyn; Balam gynt a garodd wobre. Pob un o'r rhai'n aeth dros y llwybre.
Cofia swydde Saul a Suddas, Yn rhybudd cymer dymer Demas, A chofia Agrippa, frenin oerddig, A ddaeth yn Gristion o fewn 'chydig.
Mae hi am fynd yn gyfoethog wrth ofalu a gweithio, Ond ni ddysgodd hi 'rioed na phader na chredo; Mae gen i fy hun, oni bydda'i'n ddig, Ryw grap diawledig arno.
Mi fyddwn i erioed yn gweddio rhyw 'chydig, Wrth fynd trwy ddwr neu ryw ffordd ddychrynedig, Neu ar fellt a tharane y cofiwn i am Dduw, Ond bellach byddaf byw'n o bwyllig.
Felly, Duwioldeb, mae gen i rwan Ryw chwant ac 'wyllys i roi tro tuag allan.
Meddyliwch wrth rodio draw ac yma Ym mhlith eich pwer mai Duw a'i pia; Gwyliwch roi'ch calon i garu'ch golud. Rhag ofn i chwi golli ffordd y bywyd.
Yn ddrych i bechaduried byd Cadd hwn ei adel am ryw hyd; Yn awr mi ganaf bennill dygyn, I hynod ystyr hyn o destyn,--
"Pwy heno'n wahanol, dduli dynol, all ddweyd, Na ddarfu Duw gynuyg yn unig ei wneyd Yn ddawnus feddiannol o reol ei ras, Ond ein bod ni drwy bechod yn gwrthod yn gas; Trwy glefyd a gloes, a llawer byd croes, Trwy amryw rybuddion, arwyddion a roes; Mae'n cynnyg oes gwiw i'r gwaetha sy'n fyw, Rhyfeddwn ei foddion, mor dirion yw Duw.
"Mae'n cynnyg ymwared er trymed ein trwyth, Rhag torri neu gospi'r ffigysbren di ffrwyth, Mae'n erfyn caei blwyddyn er sugyn i'w sail, Gan gloddio i'w adfywio, ac anturio rhoi tail; Ac yna os dmwg wawr a fydd, er poen mawr, Y farn a'r gair taeredd yw, Torr ef i lawr! A hon yw'r farn ffri. O! crynwn mewn cri, Rhag ofn mai rhai diffrwyth mewn adwyth y'm ni."
Ti addunedest ger bron Duw, Gwellhait dy fuchedd os cait fyw, Yn awr troi 'nol i'th hen ffieidd-dra, Fel hwch i'r dom, neu'r ci i'w chwydfa.
Y g?r a gerydder yn fynychol, Ac a g'leda ei watt annuwiol, A ddryllir yn ddisymwth ymeth, Fel na byddo meddyginieth.
Nid oedd ond ffoledd a gofid calon I mi fynd yn dduwiol ymysg rhyw Iddewon! Yr ydwy'n meddwl nad oes gan neb fel fi Gasach llancesi a gweision.
Nhw' dyngan' ac a regan, gan guro ac ymrwygo, A ddryllio'r g?r o'u cwmpas, yn dawnsio ac yn campio, A gwych gan eu calonne chware ambell wers, O cric mi hers a horsio.
O! 'roedd acw helynt drwg anaele, Tra fum i yn sal er's dyddie, Hwy wnaethon' hefyd enbyd ?g, Mynn Elian, i mi ddrwg anaele.
Fe aeth dau lo bach i ollwng trwyddyn', Ddim byd ond o ddiogi edrych atyn', Ac ni choeliech chwi byth, y cwmni ffraeth, Mor wachel yr aeth un mochyn.
A bu farw un hesbwrn, yr ydwy'n hysbys, Mewn mieri yng nghaue Morys, Ac ni fu wiw 'rwy'n siwr gan Gaenor na Sian Fynd yno i ymg'leddu na chroen na gwlan.
'Roedd y gweision a'r gweithwyr oll am y gwaetha, Heb ronyn o fater ond cysgu neu fwyta; Fe aeth y coffor a'r blawd, Och fi, cyn waced, A dacw gasgen o ymenyn dest wedi myned.
'Rwy'n ame'n ddigysur y rhoison' hwy gosyn I'r hen awff hurtedd a fydde'n dweyd ffortun, Mi a'u clywes yn siarad ac yn cadw syrwrw, Fod honno'n ymleferydd y byddwn i farw.
Ac nid ydwy'n ame llai mewn difri', Nad oeddynt hwy'n erfyn i mi farw i 'nghrogi; Roedd fy nghlocs gan un o'r llancie'n y domen, A'r llall yn dechre glynu yn yr hen wasgod wlanen.
Ac felly ni choeliech chwi, 'r cwmni enwog, Hynny o greulon golledion llidiog, A gefes i tra fum yn s?l, Fe gostiodd imi d?l cynddeiriog.
Ac mi fum cyn ddyled ag addoli, A hel pregethwyr acw i floeddio ac i goethi; A garw'r cwrw a'r bara gwyn cann A aeth yn rhan y rheiny.
Ac 'roedd gennyf botel frandi, Fe lyncwyd hwnnw i'w grogi, A cheirch i'w ceffyle hwy, hyn a hyn, Onid oeddwn i'n cryn greuloni.
Hwy fwytason' beth anaele, Rhwng bacwn, biff, ac w?e; Siawns ond hynny don' nhw i'n t? ni, I goethi mo'u pregethe.
Yr holl gwmffwrdd calon ges i oddiwrthyn' Oedd dangos fy nh?, a'm stoc, a'm tyddyn, A llawnder fy ydlan, wiwlan wedd, 'Roedd hynny'n rhyw rinwedd ronyn
Ond ar draws yr holl rinwedde, 'Roedd diawl yn y tylwyth gartre'; Ni choeliech chwi byth, am nonsens ff?! Hynny ddaeth ar f'ol i o filie.
Hwy garieut acw'n gywren, Yn f'enw i'r peth a fynnen'; Hwy'm cym'rent i'n esgus dilys dw', Ac a lyncent hwnnw'u hunen.
Ni ddyfethes i yn ty nghlefyd, Erioed gyment ag maent hwy'n ddywedyd; Ond mi deles lawer yn mhob lle O achos eu bolie bawlyd.
Ond mae'n debyg fod arnua'i eto gyfri', Gwmpas hanner coron i'r apoticeri,-- 'Rwy'n foddlon i dalu hynny fy hun, Fe wnaeth y dyn beth d'ioni.
Y gini a hanner am gyn lleied a hynny? Ai diawl a welodd etifedd y fagddu! Dos oddiyma, leidar, gyda dy ledieth, Onide, mi dala' i ti am dy hudolieth.
Nag?, glywsoch chwi 'rioed, fy eneidie, Y ffasiwn ddigywilydd gole? Gofyn gini a hanner, ?'i safn ar led, Yn gr?g y bo! am gan lleied siwrne.
Yn lle hynny dyma gini a hanner, Fydd raid imi dalu ar fyrder, Er i mi wylltio a mynd o'm co', Mi wranta mynn e' eto'i fater.
Ond ni choelia'i nad ?'i tuag adre' bellach, Mi fydda' o hyn allan am y byd yma'n hyllach; Mi wna i bawb ganlyn ar eu gwaith, Mi lainia, ac mi ?'n saith greulonach.
Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page