Read Ebook: Cartrefi Cymru by Edwards Owen Morgan Sir
Font size:
Background color:
Text color:
Add to tbrJar First Page Next Page
Ebook has 410 lines and 33947 words, and 9 pages
Please do not remove this.
Edition: 10
CARTREFI CYMRU
GAN OWEN M. EDWARDS.
CYNHWYSIAD.
Ymysg bryniau Maldwyn y mae Dolwar Fechan, yn un o'r hafannau bychain gwyrddion sydd rhwng Llanfihangel yng Ngwynfa a dyffryn y Fyrnwy. Gorsaf Llanfyllin yw'r agosaf.
Ganwyd Ann Griffiths Ebrill 1776, bu farw yn Awst 1805.
Saif yng nghysgod y graig aruthrol goronir gan adfeilion castell Carn Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yng nghanol Meirion.
Ganwyd Robert Thomas yma, mewn tlodi mawr; a chyn marw, Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod yn bregethwr enwog ac yn athraw duwinyddol.
Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchben dyffryn cul a rhamantus, y mae'r Gerddi Bluog. O Harlech neu Lanbedr yr eir yno.
Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad, archddiacon Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y Salmau. Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua 1621. Nid edwyn neb le ei fedd ym Maentwrog.
Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno.
Ganwyd "per ganiedydd Cymru," gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno Ionawr 11, 1791.
Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn agos i orsaf Drws Nant. Y mae'r Ty Croes ar gyfer yr orsaf agosaf yng nhyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd.
Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852.
Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng ffrydiau Wysg ac Wy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,--lle wnawd gan Howel Harris yn "gartref" cymundeb o dduwiolion diwyd.
Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21, 1773.
Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn Tegid, yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy.
Yr oedd y Fychaniaid, hen deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith. Y ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland Fychan. Yn amser y Rhyfel Mawr yr oedd Rowland Fychan yn byw, a Gwerfyl dipyn yn gynt.
Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn Brith. O Langamarch yr eir yno hawddaf.
Ganwyd John Penri yn y lle tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef i farwolaeth fel bradwr, Mai 29, 1593.
Y mae Glas Ynys ar fryn bychan yn codi o'r tipyn gwastadedd sy'n gorwedd rhwng mynyddoedd Meirionnydd a'r mor. O Harlech yr eir yno gyntaf.
Mab Glas Ynys oedd Elis Wyn, awdwr Gweledigaethau Bardd Cwsg. Treuliodd ei fywyd yma, o'i eni yn 1671, hyd ei gladdu yn 1734, yn Llanfair gerllaw. Y mae ysgriflyfrau o'i waith yn perthyn i eglwys Llanfair.
Y mae Ty'r Ficer yn hen dref Llanymddyfri. Y mae'n awr yn adfeiliedig iawn.
Ynddo y goleuwyd Canwyll y Cymry gan Rhys Prichard, "yr Hen Ficer," a anwyd yn 1579, ac a fu farw yn 1644.
Yn Sir Gaernarfon, rhwng Cricieth a Phorth Madog, y mae amaethdy'r Garreg Wen, ar lethr hyfryd, lle tyf blodau lawer mewn cysgod rhag gwynt y mor.
Dafydd, mab y Garreg Wen, meddir, yw awdwr yr alawon Codiad yr Ehedydd a Dafydd y Garreg Wen.
Saif Tyddewi ar lan mor gorllewinol Dyfed, yn eithaf sir Benfro. Ar draed neu mewn cerbyd yr eir yno, dros un bryn ar bymtheg o orsaf Hwlffordd.
Cartref Dewi, nawdd sant Cymru, ydyw. Yn ol pob tebyg, cenhadwr dros Grist at baganiaid rhannau gorllewinol Cymru oedd Dewi Sant. Yr oedd yn byw rywbryd rhwng 450 a 600.
DOLWAR FECHAN.
Yr wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy Llanfihangel yng Ngwynfa. Dyma brif ystafell y pentre,--yn hon yr ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig, yn hon y bydd cinio rhent Syr Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn hon y traethwyd doethineb cenhedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a chynhebrwng. Ond heddyw y mae'n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd derw, a minne deithiwr blin yn ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr Ind. Trwy'r drws agored gwelaf goesau meinion yr hen glochydd sy'n hepian wrth bentan y gegin, a thrwy'r tair ffenestr gwelaf y gwlaw yn ymdywallt i lawr trwy'r coedydd tewfrig deiliog, trwy'r onnen a'r fasarnen, ac hyd gadwyni aur banadlen Ffrainc. Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond ni wiw cychwyn trwy wlaw taranau mor drwm,--er byfryted ydyw ar ol poethder llethol un o ddyddiau olaf Mehefin. A thra bo'r gwlaw taranau'n peidio, a'r coed yn gorffen dyferu, mi ysgrifennaf hanes digyffro taith y dydd.
Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weled gwlad Ann Griffiths,- -ei bedd, a'i chartref, os medrwn. Nid oedd y ffordd yn rhwydd i'w cherdded ar ol y gwlaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tal ai honno oedd ffordd Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei dechre hi. Ond yr oedd perarogl y gwrychoedd a'r caeau, a'r lliwiau tyner, yn gwneyd iawn am drymder y ffordd. Wedi cerdded tua thair milldir dywedodd bachgennyn arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm, lle gwelwn gapel Methodist bychan yn ymnythu rhwng torlan ac afonig. Cyn i mi fyned nepell ymlaen, cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd gul oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y bryn. Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn droliau gwaith dwr Llanwddyn yn ymlusgo i fyny'r dyffryn hyd ffordd y gwaelod. Wedi gadael cysgod coed, dois i gaeau agored, ar ben y gefnen, a gwelwn hen wr rhyngof a'r goleu, yn sefyll, ac fel pe'n disgwyl. Yr oedd yn disgwyl ei fab adre o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth gan gywreinrwydd. Nid rhyw lawer o son sydd am Ann Griffiths ar orarau Maldwyn yn awr, ebe'r hen ffarmwr, ac nid rhyw lawer o ganu sydd ar ei hemynnau, dim hanner cymaint a chynt. Wrth i ni ymgomio yr oedd llwyni o goed ar fryncyn o'n blaenau, a gwelwn oddiwrth eu duwch fod ywen ymysg y coed. "Dacw Lanfihangel," ebe'r hen wr, "a dacw fur y fynwent lle mae'r hen Ann wedi ei chladdu." Cerddais o amgylch y fynwent i ganol y pentref. Y mae ar fryn gweddol serth, a'r eglwys a'r fynwent yn uchaf man. O ddrws y fynwent rhed y ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop pob peth, ty tafarn, ysgol waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth, a choed ddigon. Eis i mewn i'r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri gwair y beddau ei chwys, a dywedodd,--"Ie, dacw gof-golofn yr hen Ann. Peth digon rhyfedd fod y bobl yn ei galw'n hen Ann, a hithe wedi marw'n saith ar hugain oed." Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y fynwent, gwelwn lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn prysuro i edrych ar y dyn dieithr. Byddaf yn hoff iawn o blant gwlad,--nid ydynt yn hyfion ac yn dafotrwg fel plant tref,--a bum yn holi plant Llanfihangel yng Ngwynfa am hoff ddaearyddiaeth Cymru. Yr oeddynt yn ddeallus, a gwelwn yn eglur fod eu hathraw yn medru Cymraeg ac yn meithrin eu meddyliau. Pan oedd arnaf eisieu cael y fynwent drachefn heb neb ynddi ond myfi a'r meirw, gofynnais faint oedd pris plant yn y pentref,--plant tewion graenus fel hwy,--a chyda fod y cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag ataf, a llu o draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng porth yr eglwys a drws y fynwent. A gadawyd fi'n unig ymysg y beddau.
Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,--saif ar fryncyn, nid yr uchaf yn y gymydogaeth, ond un o'r rhai uchaf. O'r porth sy'n wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at ddrws yr eglwys,--adeilad newydd. Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os edrych y teithiwr ar ei aswy, gwel gofgolofn o wenithfaen,--nid un fwy na cholofnau ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac arni'r geiriau, -
ER COF AM ANN GRIFFITHS, DOLWAR FECHAN, GANWYD 1776. BU FARW 1806.
Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod ar ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd. Ac mor dawel ydyw'r fynwent! Ni chlywir swn ond su'r bladur wrth nofio trwy'r glaswellt draw,--y mae pob aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir swn y plant sydd yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin y medrir clustfeinio digon i glywed dwndwr yr aber sydd yn isel odditanodd yn y dyffryn. Gorwedd y wlad fel breuddwyd angel oddiamgylch,--yn dawel, dan ei blodau, ac yng ngoleuni disglaer haul. Rhwng y coed sydd gydag ymyl y fynwent, gwelwn ddyffrynnoedd a choedydd, a'r mynyddoedd sy'n gwahanu Maldwyn a Meirionnydd. Ac arnynt i gyd gorweddai tangnefedd canol haf. Ac i rai sy'n huno ym mynwent ael y bryn y mae tangnefedd mwy. Wedi ieuenctid nwyfus, wedi pryder priodi a dechreu byw a geni, wedi tymhestloedd ac ofnau, wedi cyfarfod Angau ymhell cyn i hwyrnos bywyd guddio hagrwydd ei wedd, wedi hyn oll, -
O ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys Oddi wrth fy llafur, yn fy rhan, Yng nghanol mor o ryfeddodau, Heb waelod, terfyn byth, na glan: Mynediad helaeth mwy i bara O fewn trigfannau Tri yn Un. Dwfr i nofio heb fynd trwyddo, Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.
Byw heb wres, na haul yn taro, Byw heb ofni marw mwy; Pob rhyw alar wedi darfod, Dim ond canu am farwol glwy'; Nofio yn afon bur y bywyd, Bythol heddwch sanctaidd Dri, Dan dywyniadau digymylau Gwerthfawr angau Calfari.
Yn yr unig lythyr o'i heiddo sydd ar gael, llythyr ysgrifennodd wedi priodi, a phan oedd ei bywyd byr ymron ar ben, dywed, -
"ANWYL CHWAER,--'Rwif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael treilio y rhan su yn ol dan rhoi fy hyn yn feunyddiol ac yn barhaus, gorph ac enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn roddir ato erbyn y dydd hwnnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac wrth roi yr tabarnacle hwn heibio. Anwyl chwaer, mae meddwl am i roi o heibio yn felus neillduol weithiau,--nid marw ynddo ei hun, ond yr elw mawr sudd yw gael trwyddo."
Syrthiodd cysgodion tragwyddoldeb ar ei henaid pan nad oedd eto ond ieuanc iawn; daeth y mynyddoedd tywyll i'r golwg pan oedd yn teithio rhan rosynaidd heulog ei llwybr, a'i hysbryd yn ysgafn a'i ffurfafen heb gwmwl; y mae nwyf a melusder ieuenctid yn ei chan, a mawredd tragwyddoldeb hefyd. Am bob un o'i hemynnau gellir dweyd y geiriau sydd ar ddiwedd ei llythyr, -
"Hyn oddiwrth eich chwaer yn cyflum deithio trwy fyd o amser i'r byd mawr a bery byth."
Ac wedi ofni grym pechod, wedi "cario corff o lygredd," wedi "wynebu'r afon donnog," aeth heibio i'r byd mawr a bery byth.
O'r fynwent trois tua chartref Ann Griffiths. I'm cwestiwn parthed hyd y ffordd cawn amrywiol atebion,--pedair milldir a hanner ebai un, tair milldir ebai un arall, a sicrhai y trydydd fi mai dwy filldir a hanner union oedd i Ddolwar Fach. Cerddais i lawr y bryn, croesais afonig red dan goed cysgodfawr, a dringais ochr bryn sydd ar gyfer y pentref. Cefais fy hun ar ffordd fryniog, weithiau'n dringo bryn ac yn disgyn yn ebrwydd wedyn, gan syllu ar addfedrwydd cyfoethog y wlad, a'r haul yn gwenu drwy gymylau ar y gwlith, -
"Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhol dan sel, Llifeirio mae ei ffrwyth o laeth a mel; Grawn sypiau gwiw i'r anial dir sy'n dod, Gwlad nefol yw, uwch law mynegi ei chlod."
Toc dois at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y dde hyd ffordd a'm denai i'w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau'n noeth, weithiau'n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau gwyrddion serth. Rhedai afonig yn dryloew, dan furmur yn ddedwydd. Uwch ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y goesgoch ei phen dros y lan, i weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y dwr, llawn o lysiau'r neidr a llafrwyn a'r olcheuraid, gyda chwys Mair a'r feidiog las dipyn ymhellach oddi wrth y dwr, a rhedyn tal yn edrych ar eu prydferthwch oddiar ochr y bryn. Canai miloedd o adar,--ni wiw i mi ddechre enwi'r cor,-- oddigerth pan ddistawent tra canai'r gog, yr hon oedd heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar bopeth, oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o weithiau; gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai'n dechreu canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddiwrthynt at bethau byd a bery byth. Pwy a wyr nad yn swn yr afon hon y canwyd gyntaf, -
"Ffrydiau tawel, byw rhedegog, O dan riniog ty fy Nuw, Sydd yn llanw, ac yn llifo O fendithion o bob rhyw; Dyfroedd gloew fel y grisial, I olchi'r euog, nerthu'r gwan, Ac a ganna'r Ethiop duaf Fel yr eira yn y man."
Ac ym miwsig yr afon, gyda'i nodau llon a lleddf, dychmygwn glywed geneth yn canu o lawenydd ei chalon, -
"Byw i weld yr Anweledig, Fu farw ac sydd eto'n fyw; Bythol, anwahanol undeb, A chymdeithas a fy Nuw."
Yn nes ymlaen y mae'r afon, fel merch ieuanc yn wynebu treialon byd, yn disgyn i lawr glynnoedd dyfnach,--weithiau yn y dyrysleoedd, fel pe mewn anobaith; weithiau'n llithro'n wyllt dros greigiau, fel pechadur afradlon ar ei yrfa; weithiau'n gorffwys mewn llyn tawel, dan wenu ar yr haul neu lechu'n wgus dan goed. Ychydig y mae Ann Griffiths wedi ganu am droion yr yrfa,--Williams Pant y Celyn a'u darlunia hwy o'u canol, a David Charles Caerfyrddin o fryniau Caersalem,--yr oedd ei hiraeth cryf am Dduw yn gwneyd iddi hi anghofio blinder ac ofnau'r daith. Ni sonia hi am demtasiynau, ond er mwyn cael canu am goncwest; ni chan am flinder, ond er mwyn cael canu am yr Hwn a'i cysurai, -
"Digon mewn llifeiriant dyfroedd, Digon yn y fflamau tan."
Toc gadawodd yr afonig a minne gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn tua'r Fyrnwy, dechreuais inne ddringo bryn lled serth, a gwelwn Ddolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o'r ffordd. Yr oedd y cymylau erbyn hyn wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac yr oedd tarw mewn cae cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar fy ol. Daeth i'm meddwl bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann Griffiths a'i llaw ei hun, -
Add to tbrJar First Page Next Page