Read Ebook: Cartrefi Cymru by Edwards Owen Morgan Sir
Font size:
Background color:
Text color:
Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page
Ebook has 410 lines and 33947 words, and 9 pages
Toc gadawodd yr afonig a minne gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn tua'r Fyrnwy, dechreuais inne ddringo bryn lled serth, a gwelwn Ddolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o'r ffordd. Yr oedd y cymylau erbyn hyn wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac yr oedd tarw mewn cae cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar fy ol. Daeth i'm meddwl bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann Griffiths a'i llaw ei hun, -
"Er mai cwbl croes i natur Yw fy llwybur yn y byd, Ei deithio wnaf, a hynny'n dawel, Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb pryd; Wrth godi'r groes, ei chyfri'n goron, Mewn gorthrymderau llawen fyw, Ffordd yn uniawn, er mor ddyrus, I ddinas gyfaneddol yw."
Ni welwn o'm blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr syth yn mynd i fynu'r bryn, a'r gwrychoedd o bobtu'n gwywo yng ngwres llethol yr haul poeth. Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y llwybr, fel yr oeddwn yn dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd pell, fel breuddwyd gwr ieuanc, yn ymgodi'n brydferth a gwyrdd. Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd nes y dois at lidiart y mynydd. Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd braf, gydag eithin a danadl poethion a brigau'r twynau'n tyfu ar hyd-ddo, a bryniau Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde gwelais lidiart, a banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth ei chadwyni aur o flodau, yn crogi uwch ei phen. Eis trwy'r llidiart hon, ac wedi cerdded ychydig funudau gwelwn Ddolwar Fechan o'm blaen. Nid oes dim yn hynafol nac yn rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd Maldwyn. Y mae'r ty'n newydd, a golwg lan a chysurus arno yng nghanol ei erddi blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr, ar waelod y dyffryn bychan, y mae'r adeiladau,--yr ysguboriau, y beudai, yr helm drol,--rhai ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann Griffiths yn dysgu cerdded gyda'u muriau. Yn nes i lawr y mae'r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna gweirgloddiau dan eu gwair.
Prysurais i lawr at yr adeiladau, gan groesi'r ffrwd sy'n rhedeg o'r ffynnon,--dyfroedd gloew fel y grisial welodd Ann Griffiths lawer blwyddyn cyn darllen hanes y dwfr yn tarddu dan yr allor yn seithfed bennod a deugain Eseciel. Oddiwrth yr adeiladau hyn, dringais i fyny at y ty, gan geisio dyfalu pa fath bobl oedd yno. Eis trwy lidiart yr ardd, a phan oeddwn yn edmygu'r blodau, daeth hen wraig hardd, a'i gwyneb yn wenau i gyd, i'm croesawu.
"Dyma Ddolwar Fach, ynte?"
"Ie, dowch i fewn o wres yr haul. Ydech chwi'n dwad o bell, gen mod i mor hyf a gofyn?"
"Mi gerddais o Lanfyllin; sawl milldir gerddais i?"
"Wyth. Y mae arnoch chwi eisio bwyd; dowch at y bwrdd i gymeryd tamed o ginio."
Ni fynnwn ginio, ond gofynnais a roddai hi i mi gwpanaid o ddwr oer. Daeth a gwydriad o lefrith i mi, a'r hufen melyn yn felus arno. Lawer gwaith wedyn, pan yn yfed llefrith a'i hanner yn ddwfr a'i hufen wedi ei hel yn ofalus oddiarno, bum y'n hiraethu am y glasiad llefrith a gefais yn Nolwar Fechan. Tra'r oeddym ni'n ysgwrsio, clywem droediad ysgafn ar y llofft uwchben. Gwelodd y wraig fy mod yn dyfalu pwy oedd yno, a chododd ei llais i alw, -
"Ann!"
"Ann," ebe finne, "a ydyw teulu Ann Griffiths yn yr hen gartref o hyd?"
"O nag ydyw, ar ol ei theulu hi y daethom ni"
"A oes rhai o ddodrefn yr hen deulu wedi aros?"
"Nag oes ddim, ac nid wn i a oes rhai o'r hen deulu yn aros ychwaith."
Wedi i mi gael ysgwrs a'r wraig am amaethyddiaeth, ac a'r ferch am flodau'r ardd, daeth yr ysgolfeistr, yr hwn a letyai yno, i'r ty. Y mae'n wr deallus, yn sylwedydd craff. Dywedai am ei anhawsder i ddysgu plant Cymreig, oherwydd Sais uniaith yw, a mawr ganmolai gyflymder meddwl plant y bryniau rhagor plant Saeson y gwastadeddau. Ond ni chlywsai air erioed am Ann Griffiths; ac edrychai'n ddrwgdybus arnaf, fel pe bawn un heb arfer dweyd y gwir, pan ddywedais wrtho ei fod yn byw yn nhy emynyddes oreu'r byd.
Ni welais erioed liwiau mwy gogoneddus na lliwiau'r blodau y prydnawn hwnnw; yr oedd y rhosynau gwylltion, welwn rhyngof ag awyr Mehefin ar bennau'r gwrychoedd, yn orlawn o oleuni; yr oedd goleuni'r haul yn brydferthach pan adlewyrchid ef o'u gwynder hwy na phan yr edrychid ar yr haul ei hun, fel pan yn
"Disgleirio mae gogoniant Trindod Yn achubiaeth marwol ddyn."
Wedi'r ffordd hir hyfryd oedd cyrraedd mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa, a gadael y gwres anioddefol, a myned i mewn i'r eglwys dywell oer. Nid oes dim neillduol yn yr eglwys; ond tra yr oeddwn ynddi daeth cyfnewidiad dros y diwrnod,--yn sydyn duodd yr awyr, ymrwygai taranau dychrynllyd trwyddi, fflachiai mellt nes y byddai'r eglwys dywell yn oleu a beddergryff teulu Llwydiarth yn ymddangos, fel ysgrif gwledd Belsasar, yn amlwg ar ei mur. Doi rhyw ddarn emyn o waith Ann Griffiths i'm cof o hyd, -
"Pan fo Sinai i gyd yn mygu, Sain yr udgorn uchaf radd, Caf fynd i wledda dros y terfyn Yng ngrym yr aberth, heb fy lladd."
Rhedais drwy'r gwlaw bras trysfawr i'r hen westy hwn, a dyma fi. Y mae amryw fforddolion fel y finne wedi troi i mewn am nodded ar fy ol, ac mewn hwyl ysgwrsio a mi. Treiais dynnu ysgwrs am ysbrydion a rheibio, ond cynnil iawn oedd eu hatebion,--yr oeddwn yn rhy debyg i bregethwr. Yr oedd yno un dyn deallus a llais dwfn mwyn, ffarmwr o ardal Pontrobert; nid oedd gan y clochydd air ond ambell i amen yng nghanol ysgwrs y lleill; yr oedd yno was ffarm, wedi gorfod ymadael o'i le oherwydd yr "wimwimsa," fel y galwai yr influenza. Efe oedd y prif siaradwr yn ein mysg. Cwynai nad oedd ganddo unlle ar y ddaear las i droi iddo, ie, ei bod "wedi mynd yn draed moch ac yn botes llo" arno. Wrth weled cot ddu am danaf, dechreuodd siarad ar bwnc dybiai oedd yn gydweddol a'm chwaeth, sef Sian Hughes, Pontrobert, glywais unwaith ar stryt y Bala, amser Sasiwn, yn pregethu yn erbyn y diafol a sol-ffa. "Mi fydde'n son am iffern, a pheth whithig o bethe, wrth fechgin ifinc," ebai'r gwas ffarm, yr hwn a ddychrynasid lawer o weithiau, mae'n debyg, gan bregethau'r hen wraig. Yr oedd y Sian Hughes honno, os nad wyf yn camgymeryd, yn ferch i Ruth, morwyn Dolwar Fechan, ar gof yr hon y cadwyd emynnau Ann Griffiths.
Ond y mae'r cerbyd wrth y drws yn disgwyl, rhyw fath o drol ysgafn gwlad, ac ystyllen ar ei thraws. Y mae'r awyr yn goleuo, y mae'r gwlaw wedi troi'n wlithwlaw tyner, y mae'r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y mae'r coed yn tyfu i'w gweled wedi'r gwlaw maethlon. Cyn hir bydd dau ar yr ystyllen groes, mewn trol glonciog, ar ffordd Llanfyllin; a bydd un o honynt, o leiaf, yn meddwl am emyn, os nad yn ei ganu, -
"Gwna fi fel pren planedig o fy Nuw! Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw; Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy, Yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy."
TY COCH
Anaml y bu neb mor hoff o gartref ag Ap Vychan, ac anaml iawn y bu i neb gartref tlotach. Ymysg mawrion gwlad, soniai am gymdeithion dinod ei ieuenctyd; ac o balasau ehedai ei ddychymyg i'r ty to brwyn yn yr hwn y dioddefodd eisieu bara, ac o'r hwn y gorfod iddo gychwyn i gardota aml dro.
Saif y Ty Coch yn agos at aberoedd o ddwfr tryloew, yn ymyl hen ffordd Rufeinig, dan gysgod castell rhy hen i neb fedru adrodd ei hanes, ar fin mynydd sy'n ymestyn mewn mawredd unig o Lanuwchllyn i Draws Fynydd. Y mae'n anodd cael taith ddifyrrach na'r daith o orsaf Llanuwchllyn i Gastell Carn Dochan, os gwneir hi yn yr haf, a chan un hoff o dawelwch ac awel iach oddiar eithin a grug y mynydd.
Dyma ni'n gadael yr orsaf, gan syllu ar brydferthwch yr Aran draw. Toc trown ar y dde, a cherddwn dan goed sy'n taflu eu cysgodion dros y ffordd. Dyma'r "adwy wynt," a hen gapel y Methodistiaid wedi ei droi'n dai. Wrth y tai hyn, yn enwedig wrth y siop draw, digon tebyg y cewch rywun y gellwch dynnu sgwrs ag ef, os ydych yn hoff o ymgom. Hwyrach y tarewch ar hen ddiwinydd a'i bwys ar ei ffon. Hwyrach y cyfarfyddwch a rhywun bydol,--hen wr a gwallt fel nadroedd sonia wrthych am ddyfais newydd i wneyd cribiniau, neu am ryfeddodau gwledydd pell. Hwyrach y cewch hen hanesydd ddywed wrthych fel y byddem ni yn Llanuwchllyn yn byw yn yr hen oesoedd. Os na fydd neb yno, a bydd y lle heb neb yn yr haf weithiau, cerddwch ymlaen ar hyd y "Gwaliau, ac wedi croesi'r bont cawn ein hunain yng nghwr y Llan, rhwng y fynwent a thai fu unwaith yn dy tafarn. Yn y fynwent honno, y tu hwnt i'r eglwys, gorwedd Ap Vychan hyd ganiad yr udgorn. Ac yn y ty tafarn hwnnw temtiwyd ef, pan yn laslanc tlawd, i yfed ei lasied cyntaf o gwrw mewn cyfarfod beirdd.
Wedi gadael y Llan yr ydym yn dod i ffordd y Bala, ac yn cerdded yn ein blaenau ar hyd-ddi, hyd nes y down at y Bont Liw a phentref bychan Pen y Bont. Cyn croesi'r bont yr ydym yn troi ar y chwith, ac yn cymeryd ffordd drol sydd yn ein harwain i gyfeiriad tarddle'r afon Liw. Ar un ochr i ni y mae gwrych; ac ar yr ochr arall y mae dol lydan werdd, a'r afon yn dwndwr gyda'i godreu. Yr ochr arall i'r afon y mae'r Cei, ffordd gul wedi ei chodi'n uwch na'r tir gwastad o bobtu iddi. Ar hyd y cei noethlwm hwn, dyfal gyrcha'r pererinion Anibynnol i'r Hen Gapel a welwn draw. Anodd cael rhodfa fwy dymunol na'r Cei yn yr haf, pan fo'r brithylliaid i'w gweled yn chwareu yn yr afon, a phan fo awel ysgafn gynnes yn crwydro dros laswellt a meillion aroglus. Ond yn y gauaf, pan fo dwfr oer rhewllyd o bobtu, pan chwyth awel lem finiog oddiar fynydd sydd dan ei lwydrew, y mae golwg triglyd truenus ar lawer hen Gristion ffyddlon yn tynnu yn erbyn y rhew-wynt tua'r cyfarfod gweddi.
Llawer gwaith y clywais fy nhad yn adrodd hanes gwr tyn yn cerdded hyd y Cei yn nyfnder gauaf oer. Er mwyn cynhesrwydd, yr oedd wedi gwthio ei ddwylaw i bocedi ei lodrau, ie, i'w gwaelod, oherwydd yr oedd yn erchyll o oer. Pan ar ganol y Cei, llithrodd ei droed ar y rhew, a syrthiodd ar ei wyneb ar y llwybr. Yno yr oedd mewn enbydrwydd mawr. Yr oedd ei ddwylaw'n ddyfnion, fel y dywedwyd, ym mhocedau ei lodrau. Os ymegniai i dynnu y naill law allan, treiglai oddiar y llwybr i'r dwfr ar y naill du, oherwydd yr oedd y llwybr yn gul iawn. Os tynnai'r llaw arall, ai drosodd yr ochr aroll, ac yr oedd dwfr yr ochr honno hefyd, yr un mor oer, a rhewllyd. Nid oedd dim i'w wneyd ond aros yn llonydd hyd nes y delai rhywun heibio. Ni fedrai neb, fel y Lefiad a'r offeiriad y sonnir am danynt yn yr Ysgrythyr, fyned "o'r tu arall heibio" a daeth rhyw Samaritan o'r diwedd i fwrw ei anwyd trwy godi'r gwr oedd yn methu tynuu ei ddwylaw o'i bocedi.
Ond haf ydyw'n awr; y mae'r, defaid yn y mynydd, nid ydyw Awst wedi darfod, y mae'r glaswenwyn a blodau'r taranau hyd y cloddiau, ac y mae'r corn carw hyd lethrau'r mynydd. Dyma'r llwybr yn dod a ni at yr afon eto, a dacw'r "Hen Gapel" yr ochr draw,--hen gapel Lewis Rhys ac Abraham Tibbott, Dr Lewis a Michael Jones. O'n blaenau y mae craig serth yn ymgodi i'r nefoedd, ac ar ei hael y mae muriau toredig Castell Carn Dochan. Dywedir fod telyn aur wedi ei chuddio dan y llawr ar ben y graig uchel acw; ond daw'n fellt a tharanau ofnadwy os dechreuwch, gloddio ati. Nis gwn i sicrwydd a oes telyn aur dan lawr yr hen amddiffynfa, ond gwn fod gwallt y forwyn yn tyfu yn rhigolau'r muriau, a gellir syllu ar ei bryd-ferthwch heb ofni mellt na tharanau na dim.
Ond dyma ni wrth y Deildref, cartref John Parry, athraw barddonol Ap Vychan,--"bardd rhagorol, llawn o athrylith a than awenyddol, fu farw o'r darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau." Ychydig yn uwch i fyny dyma'r Deildref Ucha, cartref Cadwaladr Jones Dolgellau, hen olygydd y Dysgedydd. Ar y chwith, rhyw ddau hyd cae o'r ffordd, y mae'r Wern Ddu, cartref yr hen Gadwaladr Williams garedig fu'n ceisio darbwyllo Ap Vychan pan yn hogyn nad ai plant llygaid gleision i'r nefoedd, ac mai Deio'r Graig oedd yn achosi'r taranau trwy fynd o ben y castell i lawr y nefoedd, a gyrru olwyn ar hydddo. Ymhellach ymlaen, wedi mwynhau golygfeydd rhamantus, dyma ni wrth y Ty Mawr lle y daeth Ap Vychan yn hogyn cadw pan yn ddeg oed, a'r lle y bu am saith mlynedd, yn mwynhau llawer o fanteision crefyddol, dan lywodraeth gref gariadlawn y wraig fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth a welodd erioed.
Cyn hir, gyda ein bod wrth droed craig y castell, dyma ffordd yn croesi ein ffordd ni, ac yn rhedeg ar draws y cwm. Trown ar y chwith ar hyd-ddi, a dyma ni wrth Hafod y Bibell. Clywodd llawer un Ap Vychan yn dweyd mai yn Hafod y Bibell y dymunai fyw, Darluniai'r golygfeydd welid o'r hafod honno,--y mynyddoedd, gwaelod dyffryn Penanlliw a Llanuwchllyn, a Llyn Tegid hefyd am wn i. Tybiai pobl ddieithr, wrth glywed Ap Vychan yn darlunio'r lle, mai palas y gellid ei alw'n Ddymunol, yng ngwlad Beulah, oedd Hafod y Bibell. A dyma'r lle. Y mae'n dechre adfeilio erbyn hyn,--nid oes yno ond to diferllyd a ffenestri gweig ion, fel tyllau llygad ysgerbwd. Y mae das o hen wair yn y gadles yn ymyl, a llwybr glaswelltog i'r caeau, llwybr nad oes erbyn hyn fawr o wahaniaeth rhyngddo a'r cae. Pe gwelai Ap Vychan ef yn awr, hawdd fuasai iddo ddweyd geiriau Dafydd ab Gwilym am y murddyn welodd mewn lle y buasai unwaith "yn glyd uwchben ei fyd mwyn,"-
"Yn ddiau mae i'th gongl ddwy-och, Gwely im oedd, nid gwal moch."
Oddiyma awn i fyny hyd y caeau, gan adael gwaith aur y Castell ar y dde. Toc croeswn gae, ac y mae'r Ty Coch draw yn ei gwr uchaf. Y mae mawredd gwaith bysedd Duw ar y creigiau sydd y tu cefn i'r Ty Coch, ond tlodaidd iawn yw'r olwg ar y ty ei hun.
Gadewch i ni ddynesu ato. Y mae'n eithaf clyd a glan, er mai bechan iawn yw ei ffenestr a phur anwastad ei lawr. Dyma ddau wr ieuanc yn dod o'r ty i'n cyfarfod, ac yn cymeryd dyddordeb mawr ynnom pan ddeallant ein bod ar bererindod i wlad Ap Vychan. Peth digon hawdd i bobl ddieithr fel y ni, a ninnau wedi darllen papurau newyddion ac yn medru siarad Saesneg, ydyw ei lordio hi dipyn, fel y dywed pobl y fro hon, yng ngwydd pobl wledig. Gwell i chwi beidio mewn cwm fel Penanlliw; y mae'r gwr ieuanc gwalltddu yna wedi gweled mwy ond odid, nag a welsoch chwi; ac y mae aml un trahaus wedi gwingo dan ffrewyll awen chwerw'r llall.
Dan gyfarwyddyd dau nai Ap Vychan awn o amgylch y ty. Yn y pen uchaf iddo yr oedd tad Ap Vychan yn byw, darn sydd eto dan ei do brwyn. Dyma'r drws diaddurn o'r hwn y cerddodd Ap Vychan i'r byd gyntaf, i ymdrechu'n galed am ei damaid bara i ddechreu, ac i gyfrannu bara'r bywyd i lawer enaid newynog wedyn. Dacw'r ffenestr eto'n aros drwy yr hon y gwelodd oleuni dydd Duw gynta erioed rywbryd tua diwedd y flwyddyn 1809. Dyma'r lle y bu ei dad,--dyn duwiol, duwinydd, a llenor da,--yn ymladd yn galed yn erbyn yr amseroedd enbytaf welodd y llafurwr Cymreig, efallai, yn holl hanes ei wlad. Dacw'r mynyddoedd, y naill y tu hwnt i'r llall, y mynyddoedd sy'n ymddelwi yn enaid pob Cymro. Bum yn meddwl lawer gwaith fod Ap Vychan, wrth ddarlunio ieuenctyd Cadwaladr Jones, yn darlunio,--na, nid ei ieuenctyd ei hun,--ond y peth ddymunasai'r bachgen tlawd fod. Yr oedd bywyd Cadwaladr Jones, "mab ffarm," yn fywyd yr hiraethai'r "hogyn cadw" am dano.
"Gallwn yn hawdd ddychymygu iddo dreulio llawer dydd teg, yn hafau dyddiau ei faboed, ar lan y nant sydd yn myned heibio i'r Deildref Uchaf, a'r afon Liw, sydd yn golchi un ochr i ddol a berthyn i'r tyddyn, yn chwareu, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient ynddynt. A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei fod yn ddiwyd yn ymlithro ar hyd ei rhewogydd yn y gauafau, ac yn cael ei geryddu gan ei fam pan ddigwyddai gael codwm, a tharaw ei wegil yn y blymen, neu pan wlychai ei draed, oblegid torri o'r rhew o dan ei bwysau, a dyfod i'r ty, ati hi, i gwyno oblegid y damweiniau. Gallwn feddwl mai dyddiau pwysig yn ei olwg ef, fel ereill, oedd dyddiau dasu y mawn, golchi y defaid a'u cneifio, dyddiau cael y gwair a'r yd, ffair Llan yr haf, a dydd cyfarfod blynyddol yr Hen Gapel. Gallwn feddwl y chwareuodd lawer tua 'Chwrt y Person', wrth ddychwelyd yn y prydnawniau gydag ereill, o ysgol ddyddiol Rhos y Fedwen; a'i fod yn aml yn ofni ac yn petruso wrth geisio myned dros y sarn, pan fyddai y llif ychydig dros y cerrig, ac wedi cyflawni y gamp honno, yn neidio ac yn llemain o lawenydd am lwyddiant ei wrhydri, yn hynny o beth. Digon tebyg ei fod ef, fel ei gyffelyb o ran oed, yn brysur tua Chalanmai yn chwilio am nythod adar, ac ym Medi, yn chwilio am y cnau yn y byrgyll. A hawdd i ni gredu ei fod ar lawer min nos yn dyfal wrandaw ar isalaw ddofn Rhaiadr Mwy, ac yn dyfod yn ei ol i'r ty yn llawer mwy sobr nag yr aethai allan. Bu lawer noswaith, mae yn debyg, yn cael y fraint o aros ar yr aelwyd, yn lle myned i'w wely, pan fyddai cymydogion yn dyfod i gyfarfod nosawl i wau hosanau, i dy ei rieni. Bu yn gwrando eu chwedleuon am amgylchiadau yr ardal, y rhyfel a Ffrainc, helwriaeth, ymddanghosiad ysbrydion, dewiniaeth, llofruddiaethau, ymladdfeydd rhwng personau unigol, yng nghyd ag ychydig o helyntion crefyddol yr Hen Gapel."
Y mae'r Ty Coch ar fin y mynydd,--"y ty agosaf i'r mynydd." Rhwng y dwfr glan a'r mynydd-dir iach sydd yn ymyl, y mae'n lle wrth fodd Cymro athrylithgar fo'n magu plant. Ond, yr oedd yr adeg honno'n gwasgu'n drwm ar fwthynwyr, yn enwedig rhai'n deulu o ddeuddeg. Dyma'r hanes fel yr adroddir ef gan Ap Vychan ei hun, -
"Yn fuan wedi terfyniad rhyfel Ffrainc, aeth ein bwthyn bychan ni, yr hwn oedd wrth dalcen y Ty Coch, yn rhy gyfyng i'r teulu cynyddol a gyfaneddent ynddo, a chafodd fy nhad ganiatad gan oruchwyliwr Syr Watcyn i ail adeiladu hen dy adfeiledig yn yr ardal o'r enw Tan y Castell. Yr wyf yn cofio mai ty newydd tlawd iawn oedd ein ty newydd ni. Yr oeddym erbyn hyn yn deulu lluosog; a swllt yn y dydd, ar ei fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad yn yr hanner gauafol o'r flwyddyn, ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a chwe cheiniog. Felly, prin y gallem gael bara, neb son am enllyn, gan y drudaniaeth. Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws, ymenyn, cig, na chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a'u rhoddai i ni i'w bwyta gyda'r dwfr y berwasid hwynt ynddo, ae nid oedd ganddi ddim oedd well iddi ei hun, er fod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd. Yr wyf yn cofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor wael."
Nid un ymffrostiai yn ei dlodi oedd Ap Vychan. Y mae ymffrost ambell un yn ei dlodi mor anerbyniol ag ymffrost un pen ysgafn yn ei gyfoeth. Ond adroddiad diaddurn, diymffrost o dlodi, adroddiad dyn ddagrau o lygaid y caletaf, ydyw yr hanes rydd Ap Vychan wrth ddarlunio tlodi ei gartref ef. Dywed haneswyr am ogoniant a bri buddugoliaeth y blynyddoedd hynny; yr oedd mawredd yn ymwisgo, fe feddylient, ag anrhydedd tragwyddol. Ond yn nhlodi'r bwthyn wrth dalcen y Ty Coch yr oedd dyn gonest yn gorfod edrych ar ei wraig a'i blant heb angenrheidiau bywyd, oherwydd uchelgais pechadurus y milwr a'r uchelwr.
Ni ddaeth tlodi ei hun, daeth clefyd trwm i Dan y Castell. Daeth mam y penteulu yno, a bu farw dan y clefyd. Daeth chwaer Dr. Ellis Evans i'w gwylio y nos tra'n gweithio yn ei lle y dydd. Gorfod troi at y plwy am gymorth. Dyma ddernyn o hanes yr amser hwnnw, -
"Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely pluf da; ond gan ein bod ar y pryd yn cael cymorth plwyfol, daeth overseer y plwyf, a'i fab gydag ef, i'n ty ni, a thynasant y gwely odditan fy nhad, yr hwn oedd i olwg ddynol ar y pryd bron a marw, a'i synhwyrau'n dyrysu'n fawr, gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn o'r ardal oedd ar gychwyn i'r America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar wellt."
Cyn hir daeth iechyd, a dechreuodd y plant ennill tipyn. Ond gadewch i ni groesi, dan gysgod craig y castell, drwy goed mafon duon a heibio cerrig enfawr sydd wedi treiglo o'r graig fry, at Dan y Castell. Yr oedd Ap Vychan a'i frodyr a'i chwiorydd yn adnabod pob un o'r cerrig hyn fel eu cymydogion. Un ffordd i ennill ambell geiniog oedd hel cen oddiar gerrig. Defnyddid y cen i lifo dillad, ac nid oes bosibl cael lliw prydferthach. Crwydrodd Ap Vychan llawer, yn hogyn byrdew, gyda brawd hyn nag ef, i hel cen cerrig ac i gardota. Clywais hen frawd yn dweyd yn ddiweddar ei fod wedi cyfarfod y ddau lawer gwaith. Byddai gan Ap Vychan got laes,--hen got oedd wedi disgyn iddo oddiwrth rywun hyn,--a dwy boced fawr y tu mewn iddi. Yn y naill boced byddai cen cerrig a chardod flawd, ac yn y llall byddai Beibl mawr. Crwydrodd y ddau frawd unwaith cyn belled ag Aber Ystwyth. Cardodasant yn Sir Aberteifi, a chawsant lawer o yd. Ond cymerodd rhywun calongaled digydwybod fantais ar y ddau hogyn deg ac wyth oed, a mynnodd eu blawd i gyd am y grot oedd raid iddynt dalu am groesi'r afon Dyfi. Ond yn y cwch dywedodd rhywun tirion,--"Yr wyf fi'n talu dros y plant bach." "Ni ellais byth," ebe Ap Vychan lawer blwyddyn wedyn, "ar fy nheithiau pregethwrol, fyned heibio'r tai a'm lletyasent, heb deimlo diolch- garwch i Dduw, ac i ddynion hefyd, am y tiriondeb a dderbyniais yn nyddiau plentynrwydd a thlodi."
Er hyn oll,--cafodd Ap Vychan ieuenctyd hapus. Wedi'r clefyd, bu'r tad a'r fam yn ddedwydd lawer awr. A phwy na fu wrth fagu plant? Dyma ddarluniad o Dan y Castell, -
"Yn nechreu haf y fwydden 1818 yr oedd gwr a gwraig, at hyaid o blant nwyfus a chwareus, yn byw dan gysgod craig fawr ac ysgythrog, ac mewn ty bychan, a'i do o redyn y mynydd-dir oedd gerllaw iddo, ac nid oedd haul yn tywynnu arno am rai wythnosau yn nyfnder y gauaf. Yr oedd yn cael ei gysgogi'n dda rhag gwyntoedd o'r gorllewin ac o'r deheu; ond yr oedd awelon oerion y gogledd a'r dwyrain yn ymosod arno yn ddidrugaredd. Mynnai y mwg hefyd ymgartrefu yn y ty a'r to rhedyn, gyda'r teulu, ac nid ai allan o'i fodd, os na fyddai'r gwynt yn chwythu o ryw bwynt a ryngai ei fodd ef. Yr oedd megis un o'r teulu.
"Yr oedd ffynnon o ddwfr iachus yn tarddu o ganol y mynydd mawr, yn union wrth dalcen y ty. Ceid digon o danwydd o fawnog oedd yn y mynydd uwchlaw'r ty, yr hyn a barai fod yr aelwyd, ar nosweithiau hirion y dyddiau byrion, yn hynod o gysurus. Eisteddai'r tad yn un gornel, a'r fam ar ei gyfer yn y gornel arall, a'r plant yn hanner cylch o flaen y tan, a phob un oedd yn ddigon o faint yn gwau hosan mor gyflym ag y gallai, fel y gallai'r fam fynd a hanner dwsin o barau i'r farchnad ar y Sadwrn, a'u cyfnewid yno am angenrheidiau teuluaidd."
Gadewch i ni adael Tan y Castell, a throi ein gwynebau tua'r Ty Cerrig, a "phulpud y Crynwyr." Sylwch ar y graig fygythiol ddaneddog, a'i chastell yn goron doredig ar ei phen. Yng ngwythienau'r graig acw y mae aur. Pan oedd Ap Vychan yn cardota ei fara ymhell yn Sir Aberteifi, yr oedd gronynau aur yn nhalcen ei dy.
O'n blaenau dacw Foel Llyfnant a'r Arennig, a dyna isalaw ddofn Rhaiadr Mwy. Dacw'r mynyddoedd y bu Ap Vychan yn crwydro hyd ddynt i hel cen cerrig, dacw dai hen breswylwyr Penanlliw,--pobl dal gyhyrog, pobl ddi-wenwyn a heddychlon, pobl wedi eu trwytho a duwinyddiaeth gadarn ac iach. Llawer hanes rhyfedd adroddir am grefyddwyr y fro hon. Ond dyma ni wrth Dy Cerrig. Yn y cyntedd o flaen y ty dywed traddodiad fod y Crynwyr wedi ymgyfarfod laweroedd o weithiau. Byddai rhyw gyfaill crwydrol yn sefyll ar garreg agosaf i'r ty, ac yn traethu. Eisteddai'r cyfeillion mwyaf blaenllaw ar y garreg arall, a safai y dorf. Ni wyddis fawr o fanylion hanes y Crynwyr, ond y mae'n sicr eu bod wedi gadael rhyw dynerwch enaid, a rhyw hoffder greddfol o'r efengyl yn y fro hon.
Ffurfiwyd meddwl Ap Vychan dan ddylan-wadau iach. Gadewch i ni droi i fyny tua, Chraig y Tan, lle y bu'n hogyn cadw'r caeau, ac mi adroddaf i chwi beth glywais gan hen bobl am dano. Bu am dymor pan y meddylid nad oedd llawer iawn o ol gras ar ei fuchedd. Pan oedd yn egwyddorwas yn y Lon draw, yr oedd wedi ei brentisio i wr crefyddol,--Simon Jones y Lon. Yr oedd gan Simon Jones fab,--un athrylithgar a direidus,--ac efe oedd hoff gydymaith y prentis go. Ambell dro canent i ryw elyn, -
"Yr un aeliau, a'r un olwg, A'r un drem, a'r gwr drwg"
Cedwid Ysgol Sul yng Nghaer Gai; a holai Thomas Ffowc y plant. Un tro gofynnodd i hogyn bychan sydd erbyn hyn yn wr cyfrifol yn yr America, -
"Oes gen ti adnod, fy mhlentyn i?"
Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page