bell notificationshomepageloginedit profileclubsdmBox

Read Ebook: Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig by Jones T Gwynn Thomas Gwynn

More about this book

Font size:

Background color:

Text color:

Add to tbrJar First Page Next Page

Ebook has 695 lines and 34927 words, and 14 pages

BRETHYN CARTREF:

YSTRAEON CYMREIG.

GAN

THOMAS GWYNN JONES.

RHAGAIR.

FEALLAI nad oes nemor gamp ar y torri a'r gwn?o, ond am y brethyn, y mae hwnnw cystal ? dim sydd ar y farchnad. Gallaf roddi fy ngair trosto, canys nid myfi a'i gwnaeth, ond Natur. Am hynny, pe bae'r grefft cystal ?'r deunydd, fe dalai'r Brethyn at hirddydd haf a hirnos gaeaf. Fel y mae, hwyrach y gwasanaetha ambell awr na bo'i amgenach wrth law, ryw ran o'r pedwar amser.

T. G. J.

ABERYSTWYTH,

CYNHWYSIAD.

BRETHYN CARTREF: YSTRAEON CYMREIG.

NAGE, nid dyn oedd o.

"Wyddoch chi beth, y mae ambell ddyn yn gi drwg ofnadwy, ac ambell gi yn ddyn da dros ben!"

Un o'r c?n sy'n ddynion da dros ben oedd Twrc.

Ci fy mrawd oedd o. O leiaf, felly y buaswn i fy hun yn dywedyd, ond fel arall y dywedodd fy mrawd.

"Ai dy gi di ydi o?" meddwn, pan welais Twrc gyntaf.

"Nage," ebr fy mrawd, "ei ddyn o ydw i."

Chwerddais.

"Wyt ti yn ame?" ebr fy mrawd.

"Nag ydw i, os wyt ti 'n dweyd felly."

"Well iti baid, hefyd. Tase fo'n gwybod dy fod ti 'n f'ame i, mi fase 'n ddrwg arnat. Mae o fel Cristion--hynny ydi, yn llawer iawn gwell. 'Does yma ddim un ohonyn nhw yn y plwy yma cyn onested ? fo. Fore ddoe, 'roedd o newydd ddwad allan o'i gut, ac heb fwyd er bore echdoe, mi wyddwn fy hun. 'Roeddwn i wedi gosod magal yng ngwaelod y cae yma. Aeth gwnhingen iddo tua 'r funud y gollyngais inne Dwrc yn rhydd fore ddoe. Wyddwn i mo hynny ar y pryd, wrth gwrs, ond clywais ryw ysgrech. Heibio i mi ? Thwrc fel ergyd. Y munud nesaf, dyna fo yn i ol, a gwnhingen yn i geg. Wedi torri 'r fagal? Ie. Ond welswn i na'r fagal na'r wnhingen yn dragywydd tase un o'r Cristnogion wedi mynd heibio.

"Ci gwirion ddywedais ti? Bum yn meddwl hynny fy hun. Ond dim perigl! Cefais o yn gi bach, a byddwn yn ei gadw mewn cut mochyn. Tyfodd yn glamp o gi yno, ond neidiodd o erioed dros y wal na'r drws oddi yno. Ryw ddiwrnod, symudais o i gut arall ? gwal uwch o'r hanner. Dyma fo drosti rhag i flaen. Fuo fo byth yn gi bach wedyn.

"Dal pethau? Braidd. Daliodd ddeg o dyrchod daear yr wythnos ddwaetha. Choeli di ddim? Aros, ynte. Twrc? Twrc?--Twrch!"

Gyda bod fy mrawd wedi galw, dyma Dwrc yn moeli ei glustiau, yn rhoi ysgydwad i'w ben, a chwythad drwy ei ffroen--fel y gwelsoch ambell hen gnowr tybaco--yn codi ei gynffon, ac ymaith ?g o tua 'r cae tatws yr ochr draw i'r buarth.

"Rh?-?-?-?-necc!"

Daeth rhyw swn tebyg i hynyna o'r cae, a'r munud nesaf, dyna Dwrc i'r golwg a thwrch daear ganddo gerfydd ei gynffon!

"Dyna iti lythyren y gyfraith!" ebr fy mrawd.

"Beth?" meddwn innau.

"Welais ti gi o'r blaen yn rhywle a wyddai wahaniaeth rhwng y naill lythyren ?'r llall?"

"Beth ydi dy feddwl di?"

"Wyt ti ddim yn gweld? Be ddeydais i wrth y ci?--Twrc? Twrc?--Twrch! onid ??"

"O, mi welaf!" meddwn.

"Pe tase fo cyhyd ? thi yn gweled, lle base'i dwrch o?"

"Byd a'i gwyr!"

"Dyna ti!" ebr fy mrawd. "Clywodd fi 'n gofyn iti--'Be ddeydais i wrth y ci?--Twrc?--Twrc?--Twrch! onide?'"

Gyda'r gair, rhoes y ci ysgeg i'r ail dwrch, ac ymaith ?g ef eto, ond galwodd fy mrawd arno.

"Dyna ddigon!" meddai, a gorweddodd Twrc ar lawr.

Buom yn ddistaw am ennyd, ac yna dechreuodd fy mrawd drachefn.

"Ddeydais i hanes o a'r mochyn wrthyt ti? Naddo? Wel, yr oedd gynnon ni ryw hen fochyn y llynedd, callach na'r cyffredin o foch. Un go dila oedd o ar ddechre 'i yrfa, y salaf o'r torllwyth, felly. Pan oedd y lleill yn barod i'w gwerthu, 'doedd fawr o lewyrch arno fo, 'Chwerwyn,' fel y byddem yn i alw. Felly, cadwyd o i'w besgi, os oedd pesgi arno. Bwytaodd beth cynddeiriog, ac o'r diwedd, pesgodd. 'Roedd rhyw elyniaeth naturiol rhyngddo ? Thwrc ar hyd yr amser, am ryw reswm neu gilydd. Byddent yn ymladd weithie, ac wrth gwrs, 'doedd gan Chwerwyn fawr o siawns yn erbyn Twrc. Gwaedwyd i glustie lawer gwaith yn yr ysgarmes. Un tro, sut bynnag, digwyddodd lwc i'r hen fochyn. 'Roedd hi 'n ddiwrnod poeth arswydus yn yr haf. 'Roedd hi mor boeth ganol dydd fel y bu raid i mi fynd a throi 'r peiriant nithio er mwyn cael gwynt. 'Roedd hi lawn cyn waethed ar yr hen fochyn, a chan na chae o wynt, mae'n debyg, meddyliodd am gael dwr--ne laid, yn hytrach. Aeth i'r llyn i ymdreiglo, a bu yno 'n hir. Rhuthrodd Twrc arno, ond yn ei flinder, syrthiodd Chwerwyn ar ei gefn. Medrodd Twrc ymryddhau, ond cafodd Chwerwyn lonydd. Nid osiodd Twrc ymosod arno wedyn hyd nes sychodd y llaid. Cyn gynted ag y gwnaeth hynny, dyma Dwrc am Chwerwyn, a Chwerwyn am y llyn. Felly y buont drwy'r haf. Wel, daeth amser lladd Chwerwyn. 'Roedd y cigydd wedi dwad, a 'roedd Chwerwyn allan ar y buarth, bron yn ymyl i gut. 'Hel o i mewn, Twrc!' medde finne. Rhuthrodd Twrc ato, ond ni symudai Chwerwyn gam iddo. Pan ai Twrc at i ben o, ceisiai Chwerwyn i ysgythru. Pan ai Twrc at i gynffon, safai yntau 'n llonydd. Twlciodd Twrc o, i geisio i yrru yn i flaen. Ond yn ofer. Aeth o'i flaen gan ddangos i ddannedd a chilio, ond nid ai'r ben fochyn ar i ol o. O'r diwedd, daeth Twrc i ganol y buarth; safodd am funud a'i ben yn gam, a phenderfynodd sut i wneud. Rhedodd, cydiodd ?'i ddannedd yng nghynffon Chwerwyn, a dechreuodd dynnu yn ol.

'Wch!' ebr Chwerwyn, a chythrodd i mewn i'r cut!

"Ie, dyna fo iti, 'does yma ddim gwell dyn na fo yn yr holl wlad yma!" ebr fy mrawd.

"Glywais ti 'r stori honno am yr hen Ffinn, arwr y Gwyddelod, a'i gi?" gofynnais.

"Naddo. Sut y mae hi?"

"Wel, dyma hi. 'Roedd Padrig Sant yn pregethu i Ffinn a'i wroniaid am y nefoedd, ac yn deyd y fath le gogoneddus a hyfryd oedd yno. Pagan oedd Ffinn, wyddost, ac yr oedd yn gwrando 'n astud. O'r diwedd, eb ef?,--

'Ga i fynd ? fy nghi gyda fi i'r nefoedd yma?'

'Na,' ebr Padrig, 'fydd yno ddim c?n yn y nefoedd.'

'H'm!' ebr Ffinn, ''does arna i ddim eisio mynd yno ynte!'"

"Go lew fo, go lew fo! Ie, 'd elwy fyth o'r fan yma!" ebr fy mrawd, gan blygu i lawr ac anwesu Twrc, rhag i mi weld y deigryn oedd yn ei lygad.

"DIOLCH am gael dwad o'r diwedd!" ebr dyn canol oed wrth ddisgyn o'r tren yn stesion Llanefron, tua deg o'r gloch un noson ym mis Awst.

Yr oedd Llanefron wedi altro yn arw yn ystod ugain mlynedd. Prin yr oedd yno ddim yr un fath yn union. Pentref bychan ydoedd gynt, a rhyw ddeucant o dai ynddo ar y goreu, y rhan fwyaf ohonynt yn fychain iawn, ac yn sal dros ben. Yr oedd yno ryw ddwy siop yn gwerthu bwyd a dillad, dwy dafarn, un capel ac un eglwys. Rhyw drichant o bobl oedd yn byw yno, y rhan fwyaf o'r dynion yn labro ar y ffermydd o gwmpas, a rhyw ddeg ar hugain neu ddeugain yn gweithio yn chwarel y Coed Bach, tua phum milltir oddi yno. Byddai rhyw ddwsin o'r bobl yn mynd i'r eglwys, rhyw ddeucant yn mynd i'r capel, a'r gweddill yn bwrw'r Sul heb fynd i unman.

Ond daeth tro ar fyd. Yr oedd y ffordd haearn yn rhedeg heibio'r lle, a gwelodd rhywrai fod yno gyfle i wneud arian. Yr oedd y m?r yn agos, ac yr oedd yr ardal yn un iach. Daeth rhyw ?r dieithr yno un diwrnod, ac aeth o gwmpas i weled y lle. Nid oedd fawr o gamp ar y pentref ei hun. Bychain a budron oedd y rhan fwyaf o'r tai, ac arogl lludw a d?r golchi lloriau yn llenwi'r awyr o'u cwmpas bob amser. Ni thalodd yr estron ond ychydig sylw i'r pentref, ond yr oedd yr ardal o'i gwmpas yn ei blesio yn fawr. Yr oedd y pentref yng ngwaelod y pant, ac afon fechan yn rhedeg drwy ei ganol. Ar du'r dwyrain, yr oedd y tir yn codi yn raddol nes cyrraedd cryn uchter, ac ar y llethr ddymunol honno yr oedd cryn nifer o dai bychain a gardd go helaeth yn perthyn i bob un ohonynt. Yr oedd pobl yn byw yn weddol daclus yn y tai hynny, ond nid yn ddi-drafferth ychwaith. Yr unig rai sydd yn medru byw yn ddi-drafferth yn y wlad hon yw'r rhai sy'n gwneud dim. Gweithwyr oedd yn byw yn y tai y soniwyd am danynt, ond trwy eu bod yn byw yn gynnil ac yn syml ac yn gwneud y goreu o'r ardd a'r cut mochyn, yr oeddynt yn medru talu eu ffordd yn lled dda. Yn eu plith yr oedd amryw yn berchenogion eu tai eu hunain. At y rhai hynny yr aeth y g?r dieithr, a chyn pen ychydig amser yr oedd wedi prynu'r tai a'r gerddi am ychydig bunnau, a'r hen drigolion yn gorfod troi i chwilio am gartrefi ereill.

Yna dechreuodd Llanefron newid. Cyn pen blwyddyn yr oedd tai newyddion lle'r oedd y bythynod a'r gerddi gynt, a phobl ddieithr yn byw ynddynt. Saeson o rywle o ganol Lloegr. Yn fuan wedyn, yr oedd tai ereill yn y farchnad, a thai newyddion yn codi yn eu lle nes britho'r llethr a'i llenwi ? thrigolion. Yr oedd yno fasnach fywiog, yn enwedig yn yr haf, pan fyddai cannoedd o bobl yn dyfod yno i dreulio eu gwyliau ar lan y m?r. Ychydig iawn o'r hen drigolion oedd yno mwyach. Yr oedd hyd yn oed yr hen bentref yn y gwaelod wedi diflannu, a chasgliad o dai newyddion wedi cymryd ei le. Nid oeddynt yn edrych mor fudron ?'r hen dai, ac nid oedd yno gymaint o arogl lludw a dwfr budr ag a fyddai gynt. Ond nid oedd llawer o ddiolch am hynny, gan fod y lludw bellach yn cael ei gario ymaith bob dydd, a bod pibellau wedi eu gosod yn y ddaear i gario dwfr budr ymaith i'r m?r, lle'r oedd y bobl fawr a fyddai yn dyfod yno yn yr haf yn ymdrochi, a'r hylif cymysg o heli a charthion yn ol pob tebyg yn gwneud lles mawr iddynt.

Add to tbrJar First Page Next Page

 

Back to top