Read Ebook: Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig by Jones T Gwynn Thomas Gwynn
Font size:
Background color:
Text color:
Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page
Ebook has 695 lines and 34927 words, and 14 pages
Yna dechreuodd Llanefron newid. Cyn pen blwyddyn yr oedd tai newyddion lle'r oedd y bythynod a'r gerddi gynt, a phobl ddieithr yn byw ynddynt. Saeson o rywle o ganol Lloegr. Yn fuan wedyn, yr oedd tai ereill yn y farchnad, a thai newyddion yn codi yn eu lle nes britho'r llethr a'i llenwi ? thrigolion. Yr oedd yno fasnach fywiog, yn enwedig yn yr haf, pan fyddai cannoedd o bobl yn dyfod yno i dreulio eu gwyliau ar lan y m?r. Ychydig iawn o'r hen drigolion oedd yno mwyach. Yr oedd hyd yn oed yr hen bentref yn y gwaelod wedi diflannu, a chasgliad o dai newyddion wedi cymryd ei le. Nid oeddynt yn edrych mor fudron ?'r hen dai, ac nid oedd yno gymaint o arogl lludw a dwfr budr ag a fyddai gynt. Ond nid oedd llawer o ddiolch am hynny, gan fod y lludw bellach yn cael ei gario ymaith bob dydd, a bod pibellau wedi eu gosod yn y ddaear i gario dwfr budr ymaith i'r m?r, lle'r oedd y bobl fawr a fyddai yn dyfod yno yn yr haf yn ymdrochi, a'r hylif cymysg o heli a charthion yn ol pob tebyg yn gwneud lles mawr iddynt.
Felly yr oedd pethau bellach, y noswaith y daeth y dyn canol oed o'r tren yn y stesion ac y diolchodd am gael dwad o'r diwedd.
Dyn tua phump a deugain oed ydoedd, yn dal a golygus, ond a'i wallt yn wyn fel y llin. Yr oedd golwg iach ar ei dalcen. Yr oedd gydag ef ddynes tua'r un oed ag yntau, ac wrthi hi y llefarodd y geiriau a ddyfynnwyd ar y dechreu. Yr oedd hithau yn dal a shapus, ond yr oedd rhychau ar ei thalcen, a'i gwallt, a fu unwaith yn felyngoch, bellach wedi troi yn felynwyn.
"Ie," ebr hithau wrtho, "diolch am gael dwad o'r diwedd!"
Cerddodd y ddau allan o'r stesion mewn distawrwydd, ac aethant ymlaen tua'r hen bentref. Yr oedd y pellter tua milltir, a chynt nid oedd ond ffordd wledig, gul, yn arwain drwy ganol tir amaethyddol o'r stesion i'r pentref. Bellach, yr oedd yno ffordd lydan, a thai mawrion o bobtu iddi.
Safodd y dyn a'r ddynes toc, yng ngoleuni un o'r lampau trydan yno, ac edrychasant ar ei gilydd.
"Yden ni wedi colli'r ffordd, dywed, Elin?" meddai'r dyn.
"Wel, yden, ne ynte mae'r lle wedi altro yn ofnadwy," ebr hithau.
"O, ie, wrth gwrs," ebr yntau, "mae'n debyg mai dyna'r rheswm. Wedi bildio y maen' nhw. Tyrd yn dy flaen ynte, 'nghariad i."
Aeth y ddau ymlaen mewn distawrwydd am dipyn. Yr oedd y ffordd yn llydan o hyd a thai o bobtu yr un fath.
"Elin," meddai'r dyn, "'ryden ni wedi i methu hi yn siwr i ti."
"Methu be, Dafydd?"
"Methu yr hen ffordd. 'Roeddwn i yn disgwyl gweld yr hen wrychoedd a'r hen lidiarde a'r hen gamfa, lle bydden ni yn sefyll cymaint ers talwm."
"Ie," ebr y ddynes, ac yna tawodd.
"A dyma be sydd yma!" meddai'r dyn, gan daflu ei law yn ddirmygus at y tai ar y naill ochr a'r llall i'r ffordd.
"Ie," ebr hithau, gan nesu ato a chydio yn ei fraich.
Cydiodd yntau am ei chanol, plygodd ei ben a chusanodd hi. Yna cerddodd y ddau ymlaen yn ddistaw eilwaith.
"Ble'r awn ni ynte, Dafydd?" meddai hi yn y man.
"Wn i ddim," ebr yntau, "waeth mo'r llawer ble. Ond i'r hen dafarn yr oedden ni wedi meddwl mynd, onte? Waeth i ni fynd yno."
"Na waeth!" ebr hithau, gan bwyso yn drymach ar ei fraich o hyd.
Cerddasant ymlaen, a daethant i ddarn o'r ffordd oedd heb dai o bobtu. Ond yr oedd y ffordd yn y fan honno yn llydan, a gwal uchel o bobtu iddi, ac nid gwrychoedd.
"O," meddai'r dyn, "melldith arnyn nhw a'u hen walie hagr!"
"Ie," ebr y ddynes yn ddistaw.
Daethant o'r diwedd i'r hen bentref, ond nid oedd yntau yr un fath a chynt, mwy na'r hen ffordd.
"Mae nhw wedi bod yma hefyd," meddai'r dyn. "Ple mae'r hen dafarn?"
"Wn i ddim ym mhle yr yden ni yn iawn," ebr y ddynes. "Mi ddylase'r hen dafarn fod draw yn y fan acw, os nad ydw i yn methu."
"Dylase," ebr yntau, "gad i ni fynd i chwilio ynte."
"Aeth y ddau hyd ystryd weddol lydan, a chroesasant yr afon, hyd bont fawr a'r trydan yn goleuo nes dangos y dwfr yn yr afon islaw yn llwyd-ddu a thipyn o ewyn budr hyd ei wyneb yma ac acw.
"Dim golwg am yr hen dafarn," meddai'r dyn.
"Nag oes," ebr y ddynes; "yn y fan acw y dylase hi fod, goelia i."
"Ie, 'nghariad i, yn union yn y fan acw. 'Ryden ni yn ymyl y lle y buon ni--wyt ti yn cofio, Elin?"
"Ydw, machgen i."
Daeth llencyn heibio gan chwibanu un o'r pethau y bydd y Saeson yn eu galw yn gerddi digrif. Pasiodd o fewn dwylath i'r dyn a'r ddynes.
"Hanner munud," meddai'r dyn wrtho, "fedrwch chi ddeyd ym mhle mae'r hen dafarn--Y Dafarn Goch?"
"Pardon, syr," ebr y llanc.
Ail ofynnodd y dyn ei gwestiwn.
"I speaks no Welsh," meddai'r llencyn, braidd yn ysgornllyd.
"Nor English," ebr y dyn, a chan afael ym mraich y ddynes, aeth yn ei flaen.
Cyfarfuasant ereill, a holodd y dyn, ond nid oedd yno neb a allai ei ateb yn Gymraeg, nag yn Saesneg ychwaith o ran hynny, na neb yn gwybod dim am y Dafarn Goch. Nid oedd neb yn cofio ei gweled yno. Fel yr oedd ar y pryd yr oeddynt hwy yn cofio'r lle.
"Be wnawn ni?" meddai'r dyn.
"Wn i ddim," ebr y ddynes. "Waeth i ni heb fynd i chwilio am yr hen fwthyn, mae'n siwr."
"Na waeth, mi waranta. Ond gad i ni fynd. Hwyrach fod y cnafon wedi gadel y wlad fel yr oedd hi."
"Hwyrach!"
Aeth y ddau yn eu holau dros y bont, ac yna ymlaen tua'r llethr, ond ystrydoedd a thai oedd o'u cwmpas ym mhob man, a bron bawb a'u pasiai yn siarad rhyw fath o Saesneg--geiriau Saesneg a chystrawen ac acen Gymreig, peth i ferwino clustiau Cymro a Sais.
"Mi ddylen fod o gwmpas y lle," meddai'r dyn; "'ryden ni yn cerdded ers ugien munud. Ond weli di, 'does yma ddim ond tai o gwmpas."
"Nag oes. Rhaid eu bod nhw wedi tynnu'r lle i lawr, Dafydd!"
"Y lladron!" meddai'r dyn.
"Nos dawch!" ebr hen wr cloff, gwargam, wrth basio.
"Nos dawch!" ebr y dyn. "Os gwelwch chi yn dda, fedrwch chi ddeyd wrtha i lle me Tyddyn Huwcyn?"
"Wel," meddai'r hen wr, "'rydech chi yn sefyll tua'r fan lle'r oedd o gynt--mae'r stryd yma yn mynd drwyddo fo, fel tase."
"'Roeddwn i yn meddwl! Diolch i chi."
Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page