Read Ebook: Nedw by Davies E Tegla Edward Tegla Illingworth Leslie Gilbert Illustrator
Font size:
Background color:
Text color:
Add to tbrJar First Page Next Page
Ebook has 783 lines and 67075 words, and 16 pages
Illustrator: Leslie Gilbert Illingworth
NEDW:
GAN
E. TEGLA DAVIES.
CYNNWYS.
NEDW.
"Nedw," medde Wmffre Pont Styllod, "ddoi di i hel crabas yn lle mynd i'r ysgol y pnawn ma?"
Er mwyn i chi ddallt pethe, fi ydi Nedw, a nghefnder ydi Wmffre.
"Edward Roberts," medde Joseph, "ydech chi'n s?l?"
Edward Roberts ydi f'enw iawn i wyddoch; ond fydda i ddim yn ei glywed o ond ganddo fo, a chan Jane Jones, Tyddyn Derw, pan yn mynd yno i n?l llaeth. Fedrwn i ddim deyd wrth Joseph mod i'n s?l, o achos toeddwn i ddim; a fedrwn i ddim deyd nad oeddwn i ddim, o achos roeddwn i'n teimlo fy mod i. Mi ddeyda i chi be oedd y mater. Roedd fy mhensel i yng ngwaelod fy mhoced, o dan y cnau i gyd, a'r cnau wedi'u gwthio i mewn mor dyn fel na fedrwn i yn fy myw fynd yn agos ati hi. Fe welodd y bechgyn i gyd yn syth be oedd y mater, am nad oedd o'n ddim byd newydd; ond fedre nhw ddim cynnyg benthyg pensel i mi heb i Joseph weld. Doedd dim i'w neud ond aros fel roeddwn i,--edrych arno fo heb ddeyd dim. Meddyliodd Joseph mod i'n mynd i ffeintio, a gyrrodd fi allan i'r awyr iach. Ac allan ? mi gymint fyth. Yn hynny mi fethes. Mae'n debyg fod yr hen Joseph wedi ameu ar fy ffordd o fynd allan nad oeddwn i'n rhyw ffeintlyd iawn, am fy mod wedi mynd ar ddau gam. I ffwrdd ? mi i gefn yr ysgol o'r golwg, ac mi deimles fy ngore am y bensel o'r tu allan i waelod poced fy nhrowsus, nes oeddwn i'n chwys. A thuchan a chwysu roeddwn, pan ddaeth rhyw gysgod heibio imi. Mi godes fy mhen, ac mi fu bron imi ffeintio mewn gwirionedd. Pwy oedd yn sefyll uwch fy mhen, yn gwylio pob symudiad, ond Joseph. "Ho, dyma'r saldra," medde fo. Gafaelodd yn fy nghlust i, a gerfydd fy nghlust yr aeth ? fi i mewn. Roedd y bechgyn erill yn ofni ac yn crynu erbyn hyn. Aeth Joseph ? fi at y ddesc.
"Ffeindia dy bensel," medde fo.
"Fedrai ddim, syr," medde finne.
"Lle mae hi?" medde fynte.
"Yng ngwaelod fy mhoced i, syr," medde finne. Mae'n bwysig galw Joseph yn "syr" ar adege fel hyn.
Mi bwysleisies y "syr," er mwyn y dyfodol, fel mae nhw'n deyd. Gneud i mi dynnu'r cnau i gyd allan ddaru o, beth bynnag; ac wrth bob dyrned o gnau, roeddwn i'n cael pinsh newydd yn fy nghlust, nes fy mod i'n gweiddi, fel Jinny fy chwaer hyna, pan oedd mam yn tyllu ei chlustie hi ?'r nodwydd sanne, er mwyn rhoi ear-rings nain iddi. Dydwi ddim yn fabi fel Jinny, chwaith. Er ei gwaetha wrth geisio peidio yr oedd hi'n gweiddi, am mai hi oedd eisio'r ear-rings; ond wrth fy mhwyse, wedi ystyried priodoldeb y peth, roeddwn i'n gneud.
Mi wages y cnau i gyd yn y man, ond doedd yno run bensel.
"Lle mae'r bensel?" medde Joseph. Wyddwn i ar y ddaear, o achos yn fy mhoced chwith yr oeddwn i arfer a'i chadw hi, a'r pethe gwerthfawr erill yn fy mhoced ddethe.
"Gwaga'r boced arall," medde fo, gan newid ei afael o'r naill glust i'r llall. Wel, doedd dim i'w neud ond gwagu'r llall, a gosod y cnau efo'r lleill ar ei ddesc o, a gweiddi fel porchell mewn llidiard, o dan bob pinshed. Wedi eu gwagu nhw i gyd, doedd y bensel ddim yno chwaith. Wyddwn i ddim be i neud, o achos roeddwn i'n dechre gweled fod cnau'r pocedi erill, pocedi fy jeced, mewn peryg o fynd. A mynd ddaru nhw, nes bod un domen fawr o gnau ar ddesc y sc?l, ond wedi'r cwbwl doedd ene'r un bensel. Mi chwilies ac mi chwilies, a Joseph erbyn hyn yn gafael o'r tu ol imi yn fy nwy glust. Rhois fy llaw wedyn yn y boced yr oeddwn arfer cadw mhensel ynddi hi; tynnes y boced allan, ac er fy syndod, beth oedd yn y gwaelod ond twll, a rhaid bod y bensel wedi llithro trwy hwnnw. Pan welodd Joseph y twll, gollyngodd fy nghlustie. Rhaid oedd imi ddal fy nwylo wedyn a chael dau slap, ond nid cyn iddo fethu lawer gwaith, o achos, rydech chi'n gweld, naturiol iawn ydi i greadur dynnu ei law yn ol heb yn wybod iddo'i hun, pan y mae'r ffon yn dwad i lawr, a chodi pen glin y goes sydd ar yr un ochor ?'r llaw honno yr un pryd. Mae'n rhaid eu bod nhw'n gweithio ar yr un llinyn, fel coese a breichie mwnci ar bric. Pheidies i ddim ? gneud hynny chwaith, nes teimlo fod dyrnod mewn pen glin yn brifo mwy na dyrnod mewn llaw. Rhaid bod y llinyn wedi torri ar ol y dyrnod hwnnw, am na chododd fy mhen glin wedyn wrth i mi dynnu fy llaw i ffwrdd. Wedi i mi fynd i'm lle, dyma Joseph yn deyd gair wrth yr ysgol i gyd. Mae o'n fwy llym na'r sc?l. Mae nhw'n deyd ei fod o'n disgwyl cael mynd yn sc?l ei hun cyn bo hir. "Wel," medde fo, "rydwi wedi deyd be fydde'r gosb os daliwn i rywun, a dyma fi wedi dal Edward Roberts." . "Y gosb ydi i mi lenwi mhocedi efo'r cnau yma, a thaflu'r gweddill allan i'r ffordd i bawb eu pigo nhw."
Trodd at y ddesc, llenwodd ddwy boced tu ol ei jeced, ac wrth gerdded yn ol a blaen yn yr ysgol y pnawn hwnnw, roedd o am y byd fel y llunie welsoch chi o ferched ers talwm iawn, pan oedden nhw'n gwisgo'r peth mae mam yn ei alw yn "bysl."
Bedwar o'r gloch, dyma ollwng y plant allan, a hel y baich cnau oedd ar y ddesc, a'u taflu nhw i gyd i'r ffordd, a Joseph yn sefyll yn nrws yr ysgol tan wenu, i edrych ar y bechgyn yn scramblo amdanyn nhw, a finne ? mhwyse ar wal yr ysgol yn edrych,--minne hefyd yn gwenu, am fy mod i'n nabod y bechgyn yn well na Joseph. Wedi eu hel nhw i gyd, heb un ar ol, daeth Wmffre nghefnder ata i, a phob un o'r bechgyn ar ei ol o, a rhoisant yn ol imi fy nghnau i gyd, gan eu gwthio i mhocedi. Codes fy mhen i edrych ar Joseph, ac mi gwelwn o yn cau'r drws, ac yn mynd i mewn i'r ysgol.
Dene'r pam fod Wmffre a minne wedi chware triwels pnawn drannoeth. Mi wyddem na feiddie Joseph neud llawer inni, am ei fod wedi gweld na chai o mo'r bechgyn o'i blaid. Ond mi fase'n well i mi fynd i'r ysgol, beth bynnag am Wmffre.
Aethom i'r ysgol bore drannoeth, heb feddwl o gwbl am y triwels yma, ac aeth popeth yn ei flaen fel arfer. I ffwrdd ? ni i hel cnau wedyn--ganol dydd,--lond y ffordd o honom ni. Ymhen yr hwyr a'r rhawg, pan oedd Wmffre yn nhop y pren crabas, a minne'n eu dal nhw iddo fo, canodd cloch yr ysgol, ac am yr ysgol ? ni am ein bywyd. Yn y man mi sylwes nad oedd Wmffre yno. Trois fy mhen, a dene lle roedd o'n ceisio tynnu ei jeced yn rhydd oddiwrth gangen y pren crabas. Doedd dim i'w neud ond mynd yn ol i'w helpio fo, a chymyd ein siawns wedyn efo Joseph. Cyn gynted ag y cyrhaeddes i yn ol at Wmffre, ac i'r bechgyn erill fynd o'r golwg, mi dynnodd ei hun yn rhydd yn rhwydd ddigon.
"Ddoi di i hel crabas yn lle mynd i'r ysgol," medde fo, "mae ene bren ardderchog wrth ein t? ni. Dydi nhad ddim gartre, ac mae mam wedi mynd i edrych am modryb Marged."
Gweles drwy'r bachu wrth y pren yn syth, ac heb ddeyd gair chwaneg, i ffwrdd ? ni at Bont Styllod. Fuo ni ddim yno yr un hanner awr, nad oedd pob poced yn llawn, a chan fod swp mawr o gnau ar lawr, oedd wedi eu tynnu o'n pocedi ni, roeddem ni uwch ben ein digon.
Wedi bwyta nes mynd bron yn s?l, a digon o amser wedyn ar ein dwylo, roedd yn anodd gwybod be i'w neud. Yng ngwaelod y cae yr oedd ceffyl newydd f'ewyrth John, un broc, un o'r rhai hardda welsoch chi rioed. Dyn od ydi f'ewyrth John, neiff o ddim deyd y drefn yn iawn wrthych chi, fel dyn, am neud drwg. Mynd yn gaclwm gwyllt mae o, ac wedyn torri ei galon, a hanner nadu, ac mae'n g?s gen i weled dyn yn torri ei galon.
"Be ddyliet ti o fynd ar gefn y ceffyl acw, a ffogieth tipyn arno ar draws y cae?" medde fi wrth Wmffre. Ac nid cynt y deydes i nad oedd Wmffre wedi taro ar gynllun i'w ddal o, a dyma'r cynllun,--mynd ? llond desgil o India M?l iddo, i Wmffre gymyd yr India M?l, ac inni ein dau redeg ar ei ol nes ei gael i gornel, i mi wedyn fynd y tu ol iddo fo, rhag ofn iddo droi'n ei ol, ac i Wmffre fynd o'i flaen efo'r India M?l, a gafael yn ei fwng pan fydde fo yn ei fwyta. Er chwilio a chwilio, fedre ni yn ein byw gael yr un ddesgil, na bwced na dim. Yr unig beth yn y golwg yn unman, a ddalie rywbeth felly, oedd het i f'ewyrth oedd y tu ol i'r drws yn y t?.
"Ei het ore ydi hi, wyddost," medde Wmffre; "ond hidia befo, mi cymerwn ni hi, fydd hi ddim yn anodd ei chnau hi wedyn."
Wedi llenwi'r het ag India M?l, allan ? ni i'r cae. Pan welodd y ceffyl ni, dyma fo'n dechre trotian i ffwrdd, a ninne ar ei ol, ac ar ei ol hyd nes bod y ceffyl yn twymno ati hi wrth redeg, a ninne'n chwys diferol. O'r diwedd cawsom ef i gornel, ac eis inne o'r tu ol iddo, gan feddwl cael gafael yn ei gynffon, os methai Wmffre gyrraedd y mwng. Cawsom lawer o hwyl ein dau wrth afael yng nghynffon Mejar, mul du'r Felin, ac ynte'n ein tynnu ni fel y gwynt ar draws y caeau a thrwy'r gwrychoedd a'r ffosydd. Ond mi spwyliodd Wmffre bethe efo'r ceffyl. Yn lle mynd yn dawel at ei ben o, gan gofio nad ydi ceffyl ddim arfer cael bwyd mewn het, rhedodd ato a dangosodd yr het yn sydyn o flaen ei drwyn, a rhaid bod y ceffyl wedi dychrynnu. "Wb!" medde fo, ac mi deimlwn fy hun mewn rhyw wlad ddiarth, rhwng twyll a gole, a rhwng twyll a gole y bu hi arna i'n hir. O'r diwedd mi oleuodd dipyn mwy, a'r peth cynta weles i oedd Wmffre efo llond yr het o dd?r, yn golchi ngwyneb i.
"Frifest ti'n arw, Nedw?" medde fo.
"Brifo be?" medde finne, gan synnu be oedd Wmffre eisio yn y wlad honno.
"Rwyt ti wedi cael cic ofnadwy yn dy foch," medde fo.
Teimles fy moch, ac yr oedd hi fel taswn i wedi cael tair neu beder dannodd yn syth ar ol ei gilydd. Roedd hi wedi chwyddo'n fawr ofnadwy, ac yn hongian. Codes ar fy nhraed, ond fedrwn i ddim sefyll. "Eistedd i lawr am dipyn," medde Wmffre, "ac mi awn ni am dro bach wedyn; ond gad imi redeg ?'r het yma'n ol yn gynta. Eid?a dda oedd y d?r yma, mae'r het rwan yn hollol l?n, ond mi ges drafferth i gael yr India M?l ohoni hi."
Aeth Wmffre ?'r het yn ei hol, ac am dro ? ni. Doedd gennym ni ddim llawer o flas i hel cnau a chrabas. Toc, dyma ni at y t?, ac mi glywem ryw s?n mawr pan yn nesu ato fo. Wedi dwad i'w olwg, be welem ni, ond f'ewyrth John ar garreg y drws yn dawnsio, ac wedyn yn torri i nadu a chrio, tan ddal ei het ore yn ei ddwylo, ac edrych i mewn iddi hi. A nadu o ddifri yr oedd o, ac nid nadu o fregedd. Wel, fedra i ddim dal gweled hen bobol yn nadu, ac mi gychwynnes adre, a rhag ofn styrbio f'ewyrth cyn iddo gael ei nadu allan yn iawn, fe ddaeth Wmffre i'm hebrwng i. Dydio ddim yn beth iach, medden nhw, rhwystro dyn i gael ei nadu allan yn iawn.
Mi ddiolches lawer am y cic hwnnw. Arbedodd fi rhag ei chael hi wedi mynd adre, o achos roedd Miriam, fy chwaer, wedi deyd nad oeddwn i ddim yn yr ysgol y pnawn. Ac arbedodd fi yn yr ysgol drannoeth.
"Edward Roberts," medde Joseph yn y bore, "tyn y peth ene allan o dy g?g." Roedd o'n meddwl mai llond fy moch o grabas, neu rywbeth felly, oedd yn gneud y chwydd, o achos tase'r chwydd yn chwydd dannodd, mi fase gen i wlanen goch am fy mhen, a hogle tyrpentein drostai i gyd; ond doedd gen i ddim byd felly. Dechre nadu ddaru mi beth bynnag, ac mi ffeindiodd Joseph fod rhywbeth mawr o'i le, am na fydda i byth yn nadu. Esboniodd Wmffre iddo fo mai wedi cael cic gan ceffyl oeddwn i, a chlywes i ddim chwaneg am y peth. Hwyrach fod cydwybod Joseph yn ei bigo fo am y cnau rheini.
Mi edryches drwy mysedd ar het f'ewyrth ar yr hoel yn y capel dydd Sul, pan oedden nhw'n gweddio, ac roedd hi'n edrych yn dda iawn a chysidro.
O! ia, mi anghofies ddeyd wrthych chi mod i wedi ffeindio fy mhensel yn fy hosan, wrth fynd i ngwely nosweth helynt y cnau.
Marchogaeth.
Wedi i mi ac Wmffre fynd yn fawr, i Affrica yr yden ni'n mynd, i hela zebras. Er ein bod ni wedi ceisio gneud rhai yn y wlad yma, chawsom ni ddim rhyw lawer iawn o hwyl, am inni fethu dwad o hyd i'r oel iawn. Ardderchog o beth fase dal zebra, mae o'n medru rhedeg ynghynt nag unrhyw greadur arall. Mae o'n gyflymach hyd yn oed na mul bach, a 'does dim anifel yn ein gwlad ni cyn gyflymed a mul bach. Mae mul bach yn medru mynd ynghynt na'r tr?n, ac mi ddaru mul bach y Felin neud hynny hefyd, pan oedd nhad yn blentyn, medde fo. Hen ewyrth i Spargo fase'r mul hwnnw tase fo'n fyw. Wedi mynd ar y relwe yr oedd o, medde nhad, a dyma'r tr?n yn dwad, ac i ffwrdd ?'r mul bach fel y gwynt o'i flaen o, ac mi fase wedi curo'r tr?n hefyd, onibae fod o'n mynd mor gyflym nes methu gweled pont y relwe. I honno yr aeth o, ac yr oedd wedi marw cyn i'r tr?n ei ddal.
Wedi inni ddarllen am y zebras yma yn llyfre'r ysgol, doedd na byw na marw wedyn gan Wmffre na faswn i'n addo mynd efe fo i Affrica wedi i ni fynd yn fawr, a dal zebras a'u ffogieth nhw. Ond y mae llawer o amser tan awn ni'n fawr, ac y mae eisio llawer o arian i fynd i Affrica, hynny ydi, os nad oes gennych chi Jac-yn-y-bocs. Mi neiff hwnnw yn lle arian. Mae gen i Jac-yn-y-bocs, ond rhaid imi ei gadw rhag i Isaac ei dorri o. Fy mrawd ieuenga i ydi Isaac, peder oed ydio, ac y mae o'n torri popeth y caiff o afael arno. Mi wyddoch bedi Jac-yn-y-bocs. Wel, dene'r bocs ynt?, ac ar y bocs mae ene fach, agorwch y bach, a whiw! dene'r caead i fyny, a chreadur bach penddu yn neidio allan ohono. Y gnethod sydd ag ofn Jac-yn-y-bocs arnyn nhw! Chlywsoch chi rioed fel y mae nhw'n gweiddi. Mi fu Wil Cae Du yn Affrica ddwyweth neu dair, a'r ail dro aeth ? Jac-yn-y-bocs efo fo. Pobol dduon sydd yn Affrica, medde fo, run fath a'r rhai sy'n canu ac yn gneud gwynebe ar lan y m?r yn yr ha, ac y mae nhw run fath a rheini mewn peth arall hefyd, medde fo, tyden nhw byth yn mynd i'r capel. Mae nhw'n meddwl mai Iesu Grist ydi lot o hen bethe bach fel Jac-yn-y-bocs, ac yn lle mynd i'r capel, medde Wil, mae nhw'n mynd ar eu glinie ac ar eu hyd ar lawr o flaen rheini. Ac fel yr ydech chi a finne'n ofni i Iesu Grist ein gweld ni'n gneud drwg, mae nhwthe yr un fath efo'r pethe yma,--y pethe yma ydi eu Iesu Grist nhw. Be ddaru Wil pan aeth o yno'r ail waith, ond mynd ? Jac-yn-y-bocs efo fo, a hel y blacs yma at ei gilydd, ac agor y bocs yn sydyn o'u blaene nhw. Chlywsoch chi rotsiwn weiddi, medde fo. Wedyn mi osododd y bocs a Jac yn edrych dros ei fin, ar garreg, a deydodd wrthyn nhw, "gweithiwch chi rwan, y cnafon, rydwi'n gosod hwn i'ch gwylio chwi," ac roedden nhw'n gweithio fel nigars trwy'r dydd, medde fo, a fynte'n cael cysgu'n dawel, a fo oedd yn cael yr arian am iddyn nhw weithio. Felly, does dim isio i chi fynd ag arian i Affrica, os bydd gennych chi Jac-yn-y-bocs.
Wel, mae gen i Jac-yn-y-bocs, ac rydwi'n mynd i'w gadw fo tan awn ni i Affrica i ddal zebras, ac hwyrach y gwneiff y blacs yma eu dal nhw drosom ni.
Fel y deydes i, mae llawer o amser tan hynny, tydi Wmffre na finne ddim wedi gadael ein hysgol na dechre shafio eto, ac mae'n rhaid gneud hynny cyn mynd i Affrica. Wedi meddwl am y pethe yma, a rhoi ein penne ynghyd, mi feddylies i hwyrach y medrem ni neud zebras. Anifeilied gwynion, fel mulod, a llinelle duon ar eu traws nhw, ydi zebras, medde llyfr yr ysgol, a mul gwyn ydi Spargo'r Felin.
"Iawn," medde Wmffre, "ond sut y cawn ni o oddiyno?"
"Hidia befo," medde finne, "does yma neb y ffordd yma wedi gweld zebra, a wyddan nhw ddim amgenach."
Ond be gaem ni i feddalu'r paent? Roedd o'n galed ac yn sych. Paraffin mae nhad yn ei iwsio, rydwi'n meddwl, ond nid ar neges i nol paraffin yr oeddem ni, neu mi fase popeth yn iawn.
"Mi ddeyda iti be nawn ni," medde Wmffre, "mae ene botel yn hanner llawn o naw-math-o-oel yn y stabal acw, a siawns na neiff un o'r naw math y tro, mi rown ni hwnnw arno fo. Wedi mynd ?'n negese adre, mi gafodd Wmffre'r oel heb lawer o drafferth, a ffwrdd ? ni i'w gymysgu, ac mi gymysgodd yn ardderchog. Doedd ene ddim brwsh yn unman, ond mi ddaeth Wmffre o hyd i ddarn o glwt, a dyma ni'n rhwymo'r clwt am ben pric, ac roedd o'n frwsh dan gamp dybygsem ni. Mi fuom drwy'r pnawn yn chwilio am Spargo'r Felin, a'r paent wedi'i guddio yng Nghae Cnau Daear, ond methu ddaru ni. Wedi methu dwad o hyd i Spargo, meddyliasom am ryw greadur gwyn arall. Y mae gan Wmffre wningen wen, ond doedd o ddim yn fodlon trio'r paent arni hi, hyd yn oed i edrych weithie fo.
"Wyddost ti," medde fi, "dene Gweno'r Fron, mae hi cyn wynned a'r galchen, ac mae'r gwartheg i gyd yn y Cae Pella."
Cae ymhell o olwg pawb ar gwr y Tyno ydi'r Cae Pella, ? choed o'i gwmpas o. A buwch ddiniwed, lonydd, ydi Gweno.
"Iawn," medde Wmffre, ac yno ? ni ar ol cael y paent a'r brwsh. Roedd Gweno'n pori ymysg y gwartheg erill, ond doedd hi ddim yn anodd ei chael i gornel ar ei phen ei hun. Fi oedd y brwshiwr ac Wmffre'n dal y paent a'r papur. Wedi rhoi'r rh?s gynta mi welsom ein bod ni wedi rhoi gormod o baent. A doedd y brwsh ddim yn rhyw weithio'n dda iawn, roedd o'n codi gormod o baent, fel brwsh gwyngalchu, a'r paent dipyn yn dene, ond doedd mo'r help. Mi gawsom well hwyl ar yr ail r?s. Gan fod y paent dipyn yn dene, rhedai'r diferion braidd ormod ar chw?l, ond pwy feder neud zebra'n berffaith, mwy na dim arall, y tro cynta, ynt?? Yr oedd y drydedd r?s yn well fyth. Efo'r gynffon a'r coese y cawsom ni'r drafferth fwya. Fedrem ni yn ein byw rwystro'r llinelle i redeg i'w gilydd. Doedd dim i'w neud ond rhannu'r fargen, a phaentio'r coese a'r gynffon i gyd yr un lliw. Erbyn hyn yr oedd Gweno'n dechre mynd yn anesmwyth, ac wedi inni orffen fasech chi ddim yn ei nabod hi. Yr oedd rhesi gwyrddion ar draws ei chefn, a'i hochre, a'i gwddf, a'i choese a'i chynffon yn wyrdd i gyd. Prin y cawsom ni roi'r brwshied ola arni nad oedd hi i ffwrdd ar garlam, ac yn troi a throsi, a dyrnu ei hun ?'i chynffon. Gresyn oedd hynny, oherwydd does ene ddim llinelle croesion i zebra, a dene oedd y gynffon yn neud. Ond roedd ysbryd zebra'n dechre mynd iddi hi, roedd hynny'n glir, o achos welsoch chi rioed y fath brancio a rhedeg. A deyd y gwir, doeddem ni ddim, yn ddistaw bach felly, yn gweld rhyw lawer o debygrwydd ynddi i zebra wedi iddi fynd dipyn oddiwrthym ni, ac aethom ymhellach wedyn er mwyn cael golwg well arni hi.
"Wmffre," medde fi, "be wyt ti'n ei feddwl ohoni hi, ydi hi'n llwyddiant?" Tynnodd Wmffre'r darn papur o'i boced yr oeddem ni'n gweithio wrtho. Llun zebra oedd o, wedi ei gymyd o lyfr yr ysgol. Roedd y ddolen yn rhydd o'r blaen. Nid ni a'i torrodd hi allan. Edrychodd Wmffre'n fanwl ar y llun, ac wedyn yn hir ar Gweno.
"Wel," medde fo, "fedrai ddim deyd ei bod yn rhyw lwyddiant mawr, ond hidia befo, welodd pobol y ffordd yma rioed zebra, fel y deydest ti."
Add to tbrJar First Page Next Page