Read Ebook: Nedw by Davies E Tegla Edward Tegla Illingworth Leslie Gilbert Illustrator
Font size:
Background color:
Text color:
Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page
Ebook has 783 lines and 67075 words, and 16 pages
"Wel," medde fo, "fedrai ddim deyd ei bod yn rhyw lwyddiant mawr, ond hidia befo, welodd pobol y ffordd yma rioed zebra, fel y deydest ti."
Aethom tuag at Gweno a'i chychwyn at y gwartheg erill, a hithe'n mynd dan brancio a neidio fel zebra iawn. Dene oedd llwyddiant mwya'r paentio. Ond pan welodd y gwartheg erill hi, chlywsoch chi rotsiwn beth. Roedden nhw'n beichio ac yn rhuo, ac amdani ? nhw fel un g?r. Ac mi fasen wedi 'i lladd hi yn siwr ddigon, onibae fod G?r y Fron wedi clywed y s?n, ac wedi dwad yno o rywle. Roeddem ni'n dau ar fin mynd i geisio'i hachub o'u gafael ar y pryd, ond pan ddaeth G?r y Fron i'r golwg, mi welsom nad oedd mo'n heisio ni, ac i ffwrdd ? ni. Mae'n rhaid fod zebra'n filen wrth wartheg yn Affrica, a nhwthe'n talu'n ol wedi ei gael o i'w gwlad eu hunen, fel mae adar yn ymosod ar ddylluan yn y dydd, ond hi ydi'r feistres yn y nos, yn ei hadeg ei hun.
"Rwan amdani," medde fi, "mi fydd Spargo'n zebra erbyn y daw'r hen ddyn allan, dawn i byth o'r fan yma." A fase fo ddim llawer o anfantes i Spargo fod dipyn tebycach i zebra, o achos roedd o'n wahanol iawn i'w hen ewyrth. Fase Spargo byth yn rhedeg yn erbyn pont y relwe heb ei gweld hi, nid am ei fod o'n well am weld, ond am ei fod o'n salach rhedwr, hynny ydi, fedre fo redeg dim.
Cawsom well hwyl ar Spargo, roedd practeisio ar Gweno wedi bod yn help inni, ac mi fasech yn ei gamgymeryd am zebra wedi inni orffen efo fo,--tase chi heb weld zebra o'r blaen. Y cwestiwn oedd ymhle i roi Spargo i sychu, ac yr oedd ynte'n dechre magu ysbryd zebra. Ac yn yr ysbryd hwnnw mi fase'n rhwbio ac yn cicio tasen ni'n ei rwymo.
"Dyma nawn ni," medde fi,--yr oedd yno lidiard fawr yn ymyl, llidiard y mynydd, ac mi welodd Wmffre'r cynllun cyn gynted a minne. Dyma ni'n gwthio breichie'r drol rhwng styllod y llidiard, ac yn rhoi Spargo yn ei ol ynddi yr ochor arall i'r llidiard, wedi ei chau hi. Yr oedd Spargo, felly, yn iawn yn y drol fel o'r blaen, ond fod y llidiard rhyngddo fo a'r drol. Fedre fo ddim symud oddiyno. Tase fo'n bacio, fedre fo neud dim ond bacio i'r llidiard, a tase fo'n tynnu, fedre fo ddim tynnu'r drol drwy'r llidiard. Fedre fo ddim mynd i'r ochre chwaith i rwbio. Ac yr oedd o erbyn hyn yn bur ysbrydol, fel zebra'n union. Dene lle roedd o felly i'r dim, yn aros i sychu.
Toc, dyma s?n traed yn dwad o'r pellter, a phwy oedd yn dwad ond yr hen Bitar Jones y Felin, wedi hanner meddwi, a doedd dim i'w neud ond cuddio. Safodd yn ymyl y drol ac edrychodd yn hurt arni. Wedyn edrychodd ar Spargo, a theimlodd y llidiard rhyngddyn nhw. Fedre fo mo'u gweld nhw'n glir iawn, yn enwedig Spargo, am ei bod yn dechre nosi, ac ynte fel roedd o. Crafodd ei ben, "a-wel, a-wel, a-wel," medde fo'n gyflym efo phob crafiad, fel giar fynydd. "A-wel, a-wel," mae gieir mynydd Cymreig yn ei ddeyd wyddoch, a "go-back, go-back," a ddywed gieir mynydd Seisnig. Safodd Pitar Jones yn llonydd wedyn, a dechreuodd ail grafu ei ben, a finne ? nwy law ar g?g Wmffre rhag iddo fethu dal, ac medde Pitar Jones, "A-wel, a-wel, yn eno--a-wel--, wel Spargo, sut doist ti fel hyn?" Agorodd y llidiard a gwthiodd drwyddi i'r ochor arall at Spargo, a Spargo'n dawnsio, heblaw bod yn rhesi gwyrddion, a'r ddau beth yn ei neud yn wahanol iawn i'r hen Spargo. "Wel, wel," medde fo, "rwyt ti wedi dwad drwy'r llidiard yma fel ysbryd. Rhosa funud, bedi'r llinelle 'ma sy arnat ti?" ac edrychodd arnyn nhw'n fanwl. "Ow! annwyl," medde fo tros y wlad, "ysbryd Spargo ydio!" ac i ffwrdd ? fo am ei fywyd.
Wedi i Wmffre a finne ddwad atom ein hunen, aethom i dynnu Spargo o'r ochor arall i'r llidiard, ond eyn inni fedru ei roi yn y drol, i ffwrdd ? fo ar ol ei fistar fel y gwynt, gan adael y drol ar ol. Welsoch chi ddim tebycach i zebra yn eich oes, yn enwedig gan nad oedd hi ddim yn ole iawn ar y pryd.
"Dydio'n rhyfedd," medde fi wrth Wmffre, "fel y mae'r paent wedi rhoi ysbryd zebra yn y ddau, Gweno a Spargo, er na chawsom ni ddim gormod o hwyl ar eu paentio nhw."
Mi drychodd Wmffre arnai'n syn ac yn bryderus am dipyn. "Wyt ti'n siwr, Nedw," medde fo, "nad y naw-math-o-oel sy'n eu smartio nhw?" Feddylies i ddim am yr agwedd ene i bethe, ond doedd dim i'w neud ond gobeithio'r gore, a mynd adre. Er i ni rwbio'n hunen ag ired, a gneud ein gore i dynnu'r paent oddiar ein dwylo, methodd Wmffre a fi ei dynnu'n ddigon llwyr, na'u bodloni nhw gartre yn ei gylch. Ymhen ychydig, daeth y stori allan, a chlywodd nhad ac ewyrth John. Wmffre a fi ydi'r ddau debyca i zebra yrwan, a rhesi duon sy ar ein cefne ni hefyd,--nid mor ddu a rhai zebras hwyrach,--glasddu yden nhw.
Wnawn ni byth gymysgu paent efo naw-math-o-oel eto. Wmffre oedd yn ei le. Yr oedd Spargo cyn llonydded ag erioed erbyn dydd Llun. Ond y gwaetha ydi fod y paent wedi rhedeg dros Gweno a Spargo i gyd, yn lle aros yn llinelle, a fase fo ddim yn gneud hynny dase fo'n oel iawn. Ond rhoswch chi nes inni fynd i Affrica ar ol tyfu'n fawr.
"Edward," medde mam, ryw fin nos, wrth nhad, "ydech chi'n meddwl bod y sciarlet ffefar yn gatshin?"
Eistedd wrth y t?n yr oedd nhad ar y pryd yn darllen yr Esboniad tan gau ei lygid, ac yn cyd-weld ? popeth a ddarllennai, a barnu oddiwrth ei waith yn nodio. Ac eistedd wrth y t?n, yn syllu iddo, yr oedd mam, ac Isaac yn cysgu ar ei glin, a minne'n gneud blaen ar bensel blwm, ac yn ceisio cuddio'r hollt oedd yn gwaedu yn fy mys i, a wnaed pan slipiodd y gylleth, neu ei cholli hi faswn i.
"Yn gatshin?" medde nhad, pan sensiodd o fod mam yn siarad, "ydi, debyg iawn. Be wnaeth i chi feddwl?"
"Wel," medde mam, "dene'r ysgol wedi cau, a hyd yn oed Wmffre dani hi, ac mae o'n gryfach o lawer na Nedw ac Isaac bach."
"Wel," medde nhad, "os ydi hi i ddwad, mi ddaw, a does dim i'w neud ond ei chymyd hi."
"Dydi hi ddim yn y dre," medde mam.
"Nagydi," medde nhad, "ond pa help sydd yn hynny?"
"Hyn," medde mam, dan grafu ei chlust ? phin wallt. A phan wna mam hynny, mae o'n arwydd bob amser ei bod o ddifri. "Mae Laura 'n chwaer-yng-nghyfreth yn byw yno, a braidd yn unig ? James oddicartre. Ac roeddwn i'n meddwl y base Nedw ac Isaac yn cael mynd yno am bythefnos, ac Annie'n cael mynd i d? Leisa fy chwaer."
"Yr argen fawr!" medde nhad, "Laura! Feder honno roi dim bwyd o'u blaene nhw ond tunie salmon, a chacenne ceiniog. Mi fyddan wedi llwgu, neu wedi marw o'r beil, cyn pen hanner yr amser."
Yr oeddwn i wedi moeli nghlustie ers meityn, ac Isaac wedi deffro. Ac o'r diwedd, wedi i ni ein dau ddangos fel yr oedd arnom ni ofn y sciarlet ffefar, cydsyniodd nhad. Ond nhad oedd yn iawn. Mi fase'n well gen i erbyn hyn taswn i wedi aros gartre i gael y sciarlet ffefar, yn lle cael Anti Laura, a'r sciarlet ffefar.
"Pryd cawn ni fynd?" medde fi wrth mam. "Dydd Llun," medde mam. Ac yr oedd hi yrwan yn nos Iau. Roedd tipyn o amser i aros, ond fase fo ddim llawer onibae am Isaac. Peder oed ydio, ac mae'n amhosibl stwffio dim i'w ben. Ac yr oedd arno eisio cychwyn bob yn ail munud. Bore drannoeth dyma fo ata i, a gofyn pryd yr oeddem ni'n mynd i d? Anti Laura. "Yr wythnos nesa," medde fi. Ac i ffwrdd ? fo. Dyma fo yn ei ol cyn pen pum munud, ac yn gofyn,--
"Nedw, ai heddyw ydi'r wsnos nesa?"
"Nage," medde fi, "mae eisio cysgu dair gwaith eto." Ac i ffwrdd ? fo wedyn. Tuag amser cinio roedd o ar goll, ac mi fuom yn edrych trwy'r pnawn amdano fo. Tua phedwar o'r gloch aeth mam i'r llofft, a dene lle roedd Isaac yn ei wely yn ei ddillad. Neidiodd mam iddo fo, a deffrodd. A'r peth cynta ofynnodd oedd, sawl gwaith oedd eisio cysgu wedyn cyn mynd i d? Anti Laura, gan ei fod o wedi cysgu un ohonyn nhw yn barod. Rhywbeth fel ene gefes i tan amser cychwyn. Mi fase'r sciarlet ffefar yn well na'i holi o. A phnawn Sul mi ddaeth i'r pen arna i.
"Pryd yden ni'n mynd, Nedw?" medde Isaac.
"Fory," medde fi.
"Ddoe," medde Isaac.
"Nage," medde fi, "fory."
"Wel, ddoe ydi fory," medde Isaac. Ac fel hyn yr oedd o tra buom ni yn nh? Anti Laura.
Pnawn Sadwrn, deydodd mam wrth nhad,-- "Mae'n siwr, Edward, fel y deydsoch chi, na ch?n' nhw fawr o drefn ar fwyd yno. Feder Laura druan neud fawr o ddim ond dyrnu'r hen biana hwnnw. Be dasen ni'n anfon gwningen a giar iddi hi, a thipyn o wye? Dase'r bechgyn yn mynd ?'r wningen efo nhw, ac inni anfon yr i?r erbyn y Sul." Aeth nhad allan, a chyn bo hir roedd o'n ol efo gwningen.
O'r diwedd dyma fore Llun yn dwad. S?n am Wmffre yn s?l! Ynghanol y fath blagio mi newidiwn ddau le efo fo yn y funud. Efo John Roberts y cigydd roedden ni'n mynd, ac Isaac yn holi a thaeru fel melin bob cam o'r ffordd. Wedi cyrraedd t? Anti Laura, fase'r brenin ddim yn disgwyl croeso gwell. Mi cusannodd, ac mi cusannodd ni. Dase ni wedi cael cymin o fwyd tra buom ni yno ag o gusanne, mi fasem wedi pesgi nes methu symud. Ond feder neb dwchu rhyw lawer ar gusanne.
A dene ni at y bwrdd. Wyddem ni ddim sut i ddechre bwyta, ac yr oedd Isaac yn cyrraedd at bopeth ar unweth. Rhywbeth gwyn fel pwdin yn trio sefyll ar ei ben, a rhywbeth arall yn edrych reit neis, ond yn wag yn ei ganol wedi i chi roi'ch dannedd ynddo fo, oedd y pethe pwysica. Cododd Isaac a finne oddiwrth y bwrdd heb gael hanner digon. Mi gawsom enwe newydd hefyd i'n dau gan Anti Laura tra y buom ni yno. "Mai Diar," oedd fy enw i, "Chubby" oedd enw Isaac. Doedd Isaac ddim yn cymyd at ei enw newydd am dipyn, ond fu o ddim yn hir cyn arfer ? fo.
"Nedw," medde Isaac wrth i ni fynd i'n gwl?u, "roedd y pethe ene yn dda, ond Isaac eisio bwyd eto. Fase fo yn leicio cael lot fel hyn,"--dan ddangos si?p mynydd o'r peth gwyn hwnnw. Ac mi feddylies am Wmffre a fi un tro yn lle ein tade yn y cinio clwb. Fel arall roedd hi yno. Wedi bwyta nes methu symud dyma Wmffre'n deyd, "Wyddost ti be, Nedw, mi faswn yn leicio taswn i'n ddafad."
"Yn ddafad?" medde fi, "i be?"
"Mae gan ddafad beder stymog," medde Wmffre. Ac mi weles drwy'r peth yn syth.
Ar ol t?, dyma fi'n dangos y wningen a'r wye i Anti Laura, a hithe yn gafael amdana i wedyn, ac yn fy nghusannu nes imi deimlo reit wan, gan ei bod hi'n gwasgu fy stymog i, a finne newydd fwyta'r peth gwag hwnnw.
Bore drannoeth, wedi inni godi a chael brecwest o rywbeth ? rhyw siort o jam arno--chawsom ni rioed jam i frecwest o'r blaen,--aethom allan i chware. Toc, dyma Anti Laura'n bloeddio arna i, a chrec yn ei llais. Mi redes i mewn, a dene lle roedd hi'n edrych yn syn ar y wningen. "Mai Diar," medde hi, "sut ma mam chi'n cwcio hwn?"
"Mae eisio ei blingo hi yn gynta," medde fi.
"Blingo!" medde hi, "What is 'blingo?'"
Wel dydi bachgen deg oed, wedi byw ar hyd ei oes dan gysgod Coed y Plas, ddim heb wybod be ydi blingo gwningen. Gofynes am fenthyg cylleth, a chyn pen chwincied roedd ei chroen hi i ffwrdd, a hithe'n barod i'w stiwio. Dase gen i gyrn ar fy mhen, fase raid i Anti Laura ddim edrych yn rhyfeddach arna i. Oddiarna i edrychodd ar y wningen.
"Tydio'n tebyg," medde hi toc, "i babi bach newydd cael bath poeth?"
Ac eis i allan at Isaac. Roedd yn dda mod i wedi mynd. Roedd o'n trio gneud yr un peth i'r gath ag a wnes i i'r wningen, nes imi ei argyhoeddi na fedre fo ddim, am fod y gath yn fyw. Ond wydde Isaac mo'r gwahaniaeth rhwng peth byw a pheth marw, er iddo holi tua mil o gwestiynne ynghylch hynny.
Rhwng helpio Anti Laura ac edrych ar ol Isaac, roeddwn i cyn boethed a dase'r sciarlet ffefar arna i. Toc, tawelodd pethe, a finne ac Isaac yn chware reit gl?n. Yn y man mi glywn yr hogle rhyfedda'n dwad o'r t?, a rhedes i mewn. Dene lle'r oedd Anti Laura'n pilio tatws, a'r wningen yn ffr?o ar y t?n.
"Wel, Anti Laura," medde fi, "nid ffr?o gwningen y mae nhw, ond ei stiwio hi. Fase waeth i chi geisio ffr?o pen dafad yr un llychyn."
"Bedi stiwio?" medde Anti.
Wyddwn i ddim be oedd y gair Saesneg am stiwio, ac mi ddeydes wrth hi mai gair mam am ferwi oedd o. Mi gawsom wningen i ginio wedi hanner ffr?o a hanner ferwi. Reit da hefyd ar y cyfan.
'Doedd gan Anti Laura ddim ?m at gwcio. Ac mi gafodd Isaac a fi hefyd chware newydd i fynd hefo ni adre--chware Anti Laura'n golchi'r llawr oedd hwnnw. Mae hi'n picio o gwmpas o un lle i'r llall, fel ceiliog rhedyn, ac yn rhwbio tipyn ar bob smotyn y disgyn hi arno. Chwerthodd Wmffre gymint wrth ein gweld ni, nes iddo fendio'n iawn oddiwrth y sciarlet ffefar, ac ynte wedi penderfynu hefyd bod yn s?l o dani am fis.
Ac yr oedd gan Anti Laura ddull da i olchi'r llestri. 'Doedd hi ddim yn cadw morwyn, er y basech yn disgwyl i un fel hi neud, ond cadwai gath. Wedi gorffen pryd bwyd roedd hi'n rhoi'r platie i'r gath eu llyfu nhw, ac wedi eu dipio mewn d?r a'u sychu ?'r llian, dene nhw i'r dim. Dene'r ffordd glenia weles i rioed. A'r peth cynta wnes i ar ol mynd adre a deyd y stori wrth mam, oedd ei chynghori i gadw cath. A barnu ar olwg mam, mi fase pob cath yn deifio dano fo, fel gwlydd tatws dan farrug. Oddiar gathod, fel ene, mae plant yn cael y sciarlet ffefar a'r dipitheria, medde nhad.
Rhwng dull Anti o olchi'r llawr, golchi'r llestri, a chwcio, mi welsom lawer o bethe newydd spon. Ymhen diwrnod neu ddau daeth yr i?r. Gan na fedre Anti ddim blingo gwningen, mi feddylies y base hi'n gofyn am fy help i bluo'r i?r, ond ddaru hi ddim. Ac eis i ac Isaac i chware, ond heb fynd o gyrraedd galw. Toc mi glywn Anti yn rhyw grio-nadu, ac mi redes i'r t?. Dene lle roedd hi ?'i dwylo'n waed ac yn blu i gyd, yn eistedd wrth y t?n yn crio. Mi edryches yn syn arni hi. Pan ddaeth ati ei hun,--"Mai Diar," medde hi, "neith y giar ddim blingo."
"Blingo byb??" medde fi.
A dene hi ? fi i'r bwtri. Welsoch chi rotsiwn beth. Roedd croen yr i?r yn ddarne fel tase hi wedi ei rhidyllio, a'i phlu'n rhidens ynghanol gwaed a strel. "Be fuoch chi'n neud, Anti?" medde fi.
"Trio blingo fo," medde Anti.
Add to tbrJar First Page Next Page Prev Page
